Skip to main content

Lluosi – Sgiliau Rhif Dartiau

Rhan-amser
Lefel Mynediad 3
Sketty Hall
Dau awr

Trosolwg

Mae Lluosi wedi cyrraedd! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim sy’n berthnasol i fywyd pob dydd, a dim byd tebyg i’r darlithoedd mathemateg rydych chi’n eu cofio!

Mae’r cwrs hwn yn ffordd hwyliog o loywi eich sgiliau rhifedd trwy gyfrwng dartiau!

•    Adio cyfansymiau 3 dart
•    Tynnu’r sgôr o’r targed
•    Dyblu a threblu rhifau
•    Haneru rhifau i gyfrifo cyfanswm pwyntiau

Gwybodaeth allweddol

Cymhwystra ar gyfer cyrsiau Lluosi: 
•    19 oed neu hŷn
•    Yn byw neu’n gweithio yn Abertawe.
Rhaid i chi ddod â thystiolaeth o gymhwystra i wers gyntaf eich cwrs. Mae rhestr o’r ffurflenni tystiolaeth sy’n dderbyniol i’w gweld yma.

Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Bydd tystiolaeth o’r dysgu a gyflawnwyd yn cael ei chasglu.

Gallech ymuno â chwrs Lluosi byr arall neu gofrestru ar ein cyrsiau Sgiliau Hanfodol Cymru – Cymhwyso Rhif Lefel 1/2 ac ennill cymhwyster rhifedd y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.