Gwneud Printiau: Sgrin-brintio – Lefel 2
Trosolwg
Mae’r cwrs 10 wythnos hwn yn gyfle i ddatblygu a chanolbwyntio ar sgiliau a thechnegau sgrin-brintio traddodiadol a chyfoes.
Mae sgrin-brintio yn gyfrwng amlbwrpas ac iddo amrywiaeth eang o gymwysiadau. Mae’n bosibl printio ar bapur, bwrdd, pren, gwydr, metel, plastigion, ac amrywiaeth eang o decstilau.
‘Cyfuniad hudol o draddodiad, arloesedd, proses a dychymyg’ (Printmaking Traditional and Contemporary Techniques, Ann d’Arcy Hughes & Hebe Vernon – Morris. 2008).
Mae’r nodweddion unigryw a’r posibiliadau creadigol diddiwedd ym maes sgrin-brintio yn agor byd newydd o greu delweddau.
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn dysgu am iechyd a diogelwch yn ein stiwdio gwneud printiau arbenigol, hanfodion dylunio, paratoi delweddau a dinoethi, cymysgu inc a dulliau printio.
Byddwn yn archwilio ac arbrofi ag amrywiaeth o dechnegau sgrin-brintio. Bydd hyn yn cynnwys stensiliau wedi’u lluniadu a’u peintio, stensiliau papur wedi’u torri â llaw, stensiliau uniongyrchol a stensiliau ffotograffig.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb angerddol yn y maes pwnc. Byddai’n fanteisiol i ddysgwyr ddod pob tymor, os yw’n bosibl, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Trwy gydol y cwrs, cewch eich arwain a’ch cyfarwyddo gan diwtor profiadol. Gan ein bod wedi ein lleoli o fewn ‘Ysgol Celf a Dylunio’ ynghyd â stiwdio printio arbenigol, cewch gyfle i gael dealltwriaeth gynhwysfawr o’r broses sgrin-brintio. Asesir y gwaith yn erbyn amrywiaeth o feini prawf. Yn ystod y cwrs, bydd dysgwyr yn cwblhau llyfryn o ganlyniadau a chreu portffolio bach o sgrin-brintiau.
Cyflwyniad i Sgrin-brintio a Phrotocolau Diogelwch
- Trosolwg o hanes ac esblygiad sgrin-brintio.
- Deall egwyddorion sylfaenol o sgrin-brintio: creu stensil, dinoethi delwedd, a chymhwyso inc.
- Cyflwyniad i’r offer a’r defnyddiau angenrheidiol.
- Protocolau diogelwch ac arferion gorau yn y stiwdio sgrin-brintio.
Hanfodion Dylunio a Pharatoi Delweddau
- Archwilio egwyddorion dylunio a chyfansoddi ar gyfer sgrin-brintio effeithiol.
- Gweithgareddau ymarferol i ddatblygu sgiliau dylunio sylfaenol.
- Cyflwyniad i feddalwedd dylunio digidol ar gyfer creu stensiliau.
- Paratoi ac optimeiddio delweddau ar gyfer sgrin-brintio.
Paratoi Sgrin a Thechnegau Dinoethi
- Archwiliad manwl o wahanol fathau o sgrin a chyfrif rhwyll (mesh count)
- Profiad ymarferol o baratoi sgrin, cotio, a sychu
- Deall technegau dinoethi ar gyfer stensiliau o ansawdd uchel
- Datrys problemau cyffredin wrth baratoi sgrin.
Technegau Cymysgu Inc a Phrintio
- Cyflwyniad i fathau gwahanol o inciau sgrin-brintio.
- Theori lliw ac ymarferion cymysgu inc.
- Sesiynau printio ymarferol sy’n cynnwys printiau unlliw ac amryliw.
- Archwilio gwahanol swbstradau a defnyddiau ar gyfer printio.
- Cyflwyniad i ddefnyddiau arbenigol megis ffoiliau a ffloc.
- Cynnwys haenau a graddiannau amryfal mewn dyluniadau.
Creu Portffolio a Phrosiect Terfynol
- Adolygu a mireinio prosiectau unigol o’r cwrs.
- Cwblhau llyfryn o ganlyniadau.
- Creu portffolio bach o waith wedi’i gwblhau.
Gallai dilyniant o unrhyw gwrs rhan-amser gynnig llwybr i gyrsiau amser llawn mewn celf a dylunio. I ddysgwyr sy’n oedolion sy’n ystyried gyrfa greadigol, gallai’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio ddarparu llwybr dilyniant ar gyfer hyn.