Excel i Ddechreuwyr
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad i Microsoft Excel, sy’n cynnwys y gosodiad a’r derminoleg a ddefnyddir. Mae’r cwrs yn cwmpasu rhai o swyddogaethau sylfaenol Microsoft Excel, megis: Fformatio Celloedd, Cofnodi Data, Fformatio Data, Fformiwlâu Mathemategol, Chwilio am Wallau, Tablau a Siartiau.
Gwybodaeth allweddol
Yn amodol ar ofynion ariannu (Y Gronfa Ffyniant Gyffredin/Craidd).
Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth. Caiff dysgwyr eu harwain trwy adnoddau’r cwrs gan yr hyfforddwr a fydd yn dangos iddynt sut i wneud y tasgau. Nid oes graddio nac asesu ar gyfer y cwrs hwn.
Gall dysgwyr symud ymlaen o’r cwrs hwn i’r cwrs Excel Canolradd.