Egwyddorion Gwasanaeth Cwsmeriaid (WorldHost) Lefel 2 - Cymhwyster
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r dyfarniad hwn yn gwrs byr undydd, a fydd yn astudio egwyddorion hanfodol gwasanaeth cwsmeriaid ar gyfer y diwydiannau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth, yn ogystal â nifer o ddiwydiannau eraill lle mae gwasanaeth cwsmeriaid yn allweddol i lwyddiant.
Mae’n addas yn bennaf i’r rhai sy’n anelu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog i’r cyhoedd a/neu gydweithwyr. Mae’n ddelfrydol ar gyfer pob lefel cyflogaeth, a gellir ei ddefnyddio fel cwrs gloywi i’r rhai sydd eisoes â phrofiad o ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel.
Gwybodaeth allweddol
Bydd dysgwyr yn mynd i weithdy undydd a addysgir gan hyfforddwr cymwysedig a chymeradwy WorldHost. Mae’r cwrs yn brofiad rhyngweithiol a difyr i staff, gan gynnwys senarios byd go iawn a chyfleoedd ar gyfer trafodaeth a gweithgareddau i rannu arferion gorau.
Mae’r cyrsiau fel arfer yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth, ond gellir trefnu addysgu o bell ar gyfer sesiynau grŵp pwrpasol. Mae’r hyfforddiant yn rhagweithiol, yn bleserus ac yn ddiddorol.
Asesir y dyfarniad trwy brawf amlddewis, yn seiliedig ar destunau a astudir yn ystod y dydd.
Unedau
- Sut i greu argraff gyntaf gadarnhaol
- Argraffiadau cyntaf
- Elfennau gwasanaeth cwsmeriaid
- Anghenion a disgwyliadau
- Grym y cyfryngau cymdeithasol
- Pawb ar ei ennill
- Pum ffordd i helpu i gofio enwau
- Agwedd yw popeth
- Y broses gyfathrebu
- Tair rhan i’r broses gyfathrebu
- Gwrandawyr effeithiol
Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe gyfradd pasio lwyddiannus ar gyfer y cwrs hwn, sef 99%.