Skip to main content

Delio â Gwrthdaro - Cwrs

Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Un diwrnod

Trosolwg

Nod y cwrs Delio â Gwrthdaro yw paratoi gweithwyr i reoli gwrthdaro â chwsmeriaid, ymwelwyr a gwesteion. Bydd y cynnwys yn rhoi strategaethau syml a chanllawiau cyffredinol i reoli ymyriadau yn broffesiynol ac yn effeithiol er mwyn tawelu’r dyfroedd a darparu atebion priodol i gwsmeriaid.

Bydd dysgwyr hefyd yn deall yr angen i reoli emosiynau, fel na fydd gwrthdaro yn cael effaith andwyol ar eu hiechyd a’u lles. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn. 

Addysgir y cwrs mewn diwrnod, wyneb yn wyneb mewn lleoliad y byddwn yn ei gadarnhau adeg cadw lle.

Testunau

  • Ystyr gwrthdaro
  • Sut rydym yn ymateb i wrthdaro
  • Adnabod arwyddion dicter
  • Ffyrdd o reoli a datrys gwrthdaro
  • Geiriau a gweithredoedd priodol ar gyfer sefyllfaoedd o wrthdaro
  • Sgiliau ar gyfer datrys gwrthdaro
  • Ymadroddion allweddol ar gyfer sefyllfaoedd o wrthdaro

Prentisiaethau Gwasanaeth Cwsmeriaid

Prentisiaethau Cyngor ac Arweiniad

Prentisiaethau Gweithrediadau Canolfan Gyswllt

Off