Dechrau Arni mewn Plastro
Trosolwg
Nod y cwrs plastro gyda’r hwyr yw rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ragori ym maes plastro. Mae’r rhaglen gynhwysfawr hon yn ymdrin â thechnegau plastro amrywiol, paratoi arwynebau, dewis defnyddiau a gorffennu. Trwy gyfuniad o arddangosiadau a sesiynau ymarferol, bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i greu arwynebau plastr llyfn a pherffaith ar waliau a nenfydau.
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr wedi magu hyder ac arbenigedd i ymgymryd â phrosiectau plastro sylfaenol.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.
Arddangosiadau ymarferol, a sesiynau yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyfranogwyr yn cael profiad gwerthfawr trwy weithdai ymarferol, lle maen nhw’n dysgu technegau plastro ac yn creu gorffeniadau llyfn. Mae sesiynau dosbarth yn cynnwys gwybodaeth ddamcaniaethol, paratoi arwynebau, dewis defnyddiau, a datrys problemau. Mae’r cwrs nos hwn yn yn addas i’r cyfranogwyr sydd ag amserlenni prysur, gan roi modd iddynt ddysgu’r grefft o blastro o amgylch eu hymrwymiadau eraill.
Gallech symud ymlaen i’r cwrs amser llawn Diploma Lefel 1 mewn Sgiliau Adeiladu - Amlsgiliau.