Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefelau Un a Dau Cyfunol
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn darparu hyfforddiant ymarferol llawn ac asesiad ym meysydd cyfosod, gosod a gwasanaethu a chynnal a chadw parhaus, gan ddechrau gyda hanfodion cwrs Cynnal a Chadw Beiciau Proffesiynol Lefel Un.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys:
- Iechyd a Diogelwch yn y gweithdy
- Gosod gerau
- Teiars a thiwbiau
- Pensetiau, gerau, breciau ymyl, bothau a berynnau
- Cyflwyniad i freciau disg a gwaedu hydrolig
- Gerau both mewnol
- Triwio olwynion ac adnewyddu adenydd olwynion
- Adeiladu olwynion
Byddwch chi’n astudio elfennau ymarferol Lefel Un a Lefel Dau.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ffurfiol. Dylech chi fod yn gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y diwydiant cynnal a chadw beiciau.
Addysgir y cwrs yn ein cyfleuster arbenigol newydd dros bythefnos – dydd Llun i ddydd Gwener.
Bydd y cwrs yn cael ei asesu i Cytech dau gan aseswr achrededig allanol o’r Activate Cycle Academy, Rhydychen. Byddwn yn rhoi’r dyddiad ar gyfer y sesiwn asesu yn ystod yr hyfforddiant.
Rydyn ni hefyd yn addysgu cyrsiau Cynnal a Chadw e-Feiciau Uwch.
Darperir beic ac offer ar gyfer y cwrs.