Cyfrifeg Ariannol (FA) - Cyfrifeg ACCA
Ffôn: 01792 284097 E-bost: accountancy@gcs.ac.uk
Trosolwg
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Gwybodaeth allweddol
Yn ddelfrydol, dylai myfyrwyr feddu ar un neu ddwy radd A-C ar lefel TGAU. Fodd bynnag, mae synnwyr cyffredin a dawn am rifau ac amcangyfrif yn bwysicach. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
FA – Cyfrifeg Ariannol. Byddwch yn dysgu egwyddorion a chysyniadau sylfaenol cyfrifeg ariannol, technegau cyfrifeg a pharatoi datganiadau ariannol sylfaenol. Byddwch yn dangos hyfedredd technegol wrth ddefnyddio technegau cofnodi dwbl, gan gynnwys paratoi a dehongli datganiadau ariannol sylfaenol ar gyfer unig fasnachwyr, partneriaethau, cwmnïau a grwpiau syml o gwmnïau.
Addysgir y cwrs drwy ddarlithoedd ystafell ddosbarth gan aelodau staff cymwysedig a phrofiadol.
Cynigir arholiadau ffurfiol yn ôl y galw. Asesir trwy arholiad allanol.
Gellir ariannu’r cwrs hwn trwy ein Cynllun Sgiliau ar gyfer Diwydiant – gofynnwch am ragor o fanylion.
Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r tîm cyfrifeg.