Skip to main content

Cyflwyniad i Fodelu 3D

Rhan-amser
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Gall meddalwedd modelu 3D fod o gymorth mewn amrywiaeth o sectorau gwahanol. Gellir ei ddefnyddio mewn argraffu 3D, gemau, ffilm a VFX, celf cysyniad, animeiddio 3D, dylunio cynnyrch, dylunio pensaernïol, dylunio ceir, hysbysebu ac ati.

Ar y cwrs hwn byddwch yn dysgu’r sgiliau a’r technegau meddalwedd 3D canlynol:

  • Modelu 3D Modelling a Theori Geometrig
  • Modelu Amlonglog
  • Modelu NURBS
  • Dadlapio UV
  • Gweadu sylfaenol gan ddefnyddio Photoshop

Ychwanegwyd Mehefin 2021

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen unrhyw sgiliau/profiad blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, ond bydd unrhyw ddefnydd blaenorol o gymwysiadau/meddalwedd creadigol megis Photoshop/After Effects/Blender yn fanteisiol.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn y dosbarth a’i asesu ar dasgau seiliedig ar weithdy yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y cwrs yn para 10 wythnos am ddwy awr yr wythnos.

Bydd y sgiliau a’r technegau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn yn eich helpu i symud ymlaen i gyflogaeth mewn amrywiaeth o sectorau megis: dylunio cynnyrch 3D, celf cysyniad, dylunio gemau, ffilm a VFX, animeiddio 3D, dylunio pensaernïol, dylunio ceir a llawer mwy. Mae cyfle hefyd i symud ymlaen i gwrs Gradd Sylfaen mewn Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol sy’n cael ei gynnig ar Gampws Tycoch ar hyn o bryd.

Off