Coginio i Figaniaid
Trosolwg
Bob wythnos, cewch gyfle i feistroli’r grefft o baratoi a choginio dwy rysáit figan.
Byddwch yn paratoi amrywiaeth o ganapés, cyrsiau cyntaf, prif gyrsiau a phwdinau. Byddwch hefyd yn dysgu i addasu ryseitiau i gynnwys blasau a chynhwysion gwahanol.
Sesiwn 1 – Cyflwyniad ac arddangosiad coginio.
Sesiynau 2-10 – Sesiynau ymarferol, gyda gwerthusiad cwrs.
Gwybodaeth allweddol
Efallai eich bod yn gweithio yn y diwydiant ac yn teimlo bod angen gwella’ch sgiliau.
18+ oed
Gan eich bod yn gweithio ym maes cynhyrchu bwyd:
- Dim gemwaith na thlysau
- Dim farnais ewinedd nac ewinedd jel
- Caniateir ychydig iawn o golur.
Arddangosiadau gan y darlithydd, gwaith ymarferol.
Ni fydd asesiad ffurfiol.
Drwy gydol y sesiynau, cewch adborth geiriol, ynghyd ag awgrymiadau a chymhorthion defnyddiol.
Byddwn ni’n darparu ryseitiau, ac rydyn ni’n eich annog i gadw’r rhain mewn portffolio bach.
Ffioedd y cwrs - £175.
Gan eich bod yn paratoi bwyd, mewn cegin fasnachol, rhaid i fyfyrwyr ddarparu’r canlynol:
- Het a gymeradwyir gan y diwydiant (rhwyd wallt o leiaf)
- Cot wen (ffedog o leiaf)
- Esgidiau caeedig di-lithr.
Bydd cynhwysion yn costio tua £10 yr wythnos.