Skip to main content

Bŵt-camp Lluosi Haf - Lluosi a Rhannu

Rhan-amser
Sketty Hall
Un awr a hanner

E-bost: multiply@gcs.ac.uk 

Trosolwg

 

Mae Bŵt-camp Lluosi yma i roi hwb i’ch sgiliau rhifedd cyn i chi ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf.  Mae’r sesiynau hyn yn berffaith ar gyfer dysgwyr sydd am ddechrau cwrs Mynediad i AU neu brentisiaeth. Hefyd, maent yn addas ar gyfer pobl sy’n dymuno gwella sgiliau rhifedd defnyddiol i’w defnyddio o ddydd i ddydd.

Lluosi a Rhannu: Dulliau newydd.

Mae rhai pethau yn newid! Defnyddiwch y sesiwn i ddysgu ymagwedd modern a hygyrch at rai sgiliau hanfodol pwysig. Mae’r oes yn newid, ond mae tablau yn aros yr un fath. Datblygwch ddulliau a strategaethau newydd i’w defnyddio o ddydd i ddydd.

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau: 
•    19+ oed
•    Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.

Nid yw’r cwrs hwn wedi’i achredu, felly does dim angen cynnal unrhyw asesiadau.

Gallwch hefyd gymryd rhan mewn sesiynau bŵt-camp eraill, cwrs Lluosi hirach neu gwrs Lefel 2 (cyfwerth â TGAU) mewn Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif.