BPEC HWSS Systemau Dŵr Poeth Ag Awyrell a Heb Awyrell – Cymhwyster
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae BPEC HWSS Systemau Dŵr Poeth Ag Awyrell a Heb Awyrell yn disodli’r cwrs Dŵr Poeth Heb Awyrell ac yn cwmpasu pob system dŵr poeth. Mae’r diweddariad wedi digwydd oherwydd y Rheoliad Adeiladu G3 a gafodd ei ddiwygio’n ddiweddar.
Mae cynnwys gwreiddiol yr hen hyfforddiant systemau dŵr poeth heb awyrell yn cael ei astudio, yn ogystal â’r gofynion newydd dan G3 ar gyfer systemau ag awyrell a heb awyrell.
Nodau’r cwrs yw:
- Deall gofynion Rhan G o’r Rheoliadau Adeiladu sy’n gysylltiedig â dylunio, gosod, gwasanaethu a chynnal a chadw Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig a sut i gydymffurfio â’r rheoliadau, gan dalu sylw penodol i silindrau heb awyrell
- Nodi namau nodweddiadol cysylltiedig â gosod/cynnal a chadw Systemau Storio Dŵr Poeth Domestig Heb Awyrell
- Deall effaith rheoliadau adeiladu eraill sy’n gysylltiedig â dylunio, gosod, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau storio dŵr poeth, yn enwedig Rhan L1 a Rhan P
Ar ôl cwblhau’r cwrs, dylai dysgwyr allu cofrestru gyda chynllun personau cymwys megis y Gofrestr Diogelwch Nwy. Ar ôl cofrestru, bydd dysgwyr wedyn yn gymeradwy ac yn gallu gweithio gyda systemau dŵr poeth.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cwrs yn ddelfrydol i ymgeiswyr sydd â’r canlynol:
- Nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes plymwaith neu beirianneg gwresogi confensiynol, gan gynnwys rheoliadau dŵr
- Cymhwyster ffurfiol S/NVQ Lefel 3 mewn plymwaith neu beirianneg gwresogi, gan gynnwys rheoliadau dŵr
- Neu yn dilyn cwrs plymwaith neu beirianneg gwresogi ar hyn o bryd, fydd yn arwain at gymhwyster ffurfiol megis S/NVQ Lefel 3 mewn plymwaith neu beirianneg gwresogi, gan gynnwys rheoliadau dŵr
Mae’n bosibl y bydd angen cyfweliad byr gyda thiwtor y cwrs.
Addysgir y cwrs mewn un diwrnod, gan gynnwys asesiad yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe, ar Gampws Tycoch.
Gallai dysgwyr ystyried asesiad ACS Nwy neu Dechnolegau Adnewyddadwy.
Asesir y cwrs trwy bapur amlddewis ac asesiad ymarferol.
Ffi’r cwrs yw £220, ac mae hyn yn cynnwys cofrestriad, llawlyfr ac ardystiad cwrs.
Mae’r cymhwyster hwn yn ddilys am bum mlynedd, a bydd angen ei adnewyddu os ydych am barhau i osod a chomisiynu Silindrau Dŵr Poeth Heb Awyrell.