Skip to main content

Rheoli Ystadau a Chyfleusterau Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Rheoli Cyfleusterau yn addas ar gyfer amrywiaeth eang o ddysgwyr, o weithwyr newydd sy’n gobeithio ennill dealltwriaeth o reoli cyfleusterau a’r sector, i staff profiadol sydd am gael gwybodaeth ddyfnach o’r proffesiwn er mwyn symud ymlaen i rolau rheoli neu uwch.

Mae prentisiaeth Lefel 3 yn bennaf ar gyfer staff sy’n gweithio fel is-reolwr neu oruchwyliwr ym maes rheoli cyfleusterau, sydd am gael dealltwriaeth a gwybodaeth ddyfnach. Mae hefyd yn addas i staff sy’n awyddus i weithio mewn rôl reoli neu oruchwylio.

Gellir defnyddio’r prentisiaethau i recriwtio neu uwchsgilio staff presennol.

Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yng Nghymru. Os ydych chi’n chwilio am gwrs cyfatebol yn Lloegr, cliciwch yma.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr dynodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Mae dull addysgu’r brentisiaeth yn hyblyg, a gellir ei deilwra i weddu i anghenion y dysgwr a’r cyflogwr, gan gynnwys dull addysgu wyneb yn wyneb a rhithwir, neu ddull cyfunol.

Unedau gorfodol

  • Cyfrifoldebau iechyd a diogelwch ym maes Rheoli Cyfleusterau
  • Cysylltiadau cwsmeriaid a rhanddeiliaid ym maes Rheoli Cyfleusterau
  • Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a chynaliadwyedd ym maes Rheoli Cyfleusterau
  • Cyflwyniad i Reoli Cyfleusterau
  • Nodi a chaffael cyflenwadau a gwasanaethau cyfleusterau
  • Rheoli perfformiad gweithredol ym maes Rheoli Cyfleusterau

Unedau dewisol

Bydd y tiwtor/aseswr dynodedig yn trafod yr unedau dewisol gyda’r dysgwr a’r cyflogwr, a bydd yn pennu’r unedau addas yn dibynnu ar flaenoriaethau’r sefydliad ac anghenion datblygu’r dysgwr. 

Rheoli Cyfleusterau Lefel 4 - Prentisiaeth

Rheoli Cyfleusterau Lefel 5 - Prentisiaeth

I gwblhau’r brentisiaeth hon yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o asesiadau. Bydd yr asesiadau yn dasgau seiliedig ar waith gan roi modd i’r dysgwr gymhwyso’r sgiliau, yr wybodaeth a’r ymddygiadau a ddatblygwyd yn uniongyrchol i’w rôl. 

Dan y fframwaith prentisiaeth, bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau’r canlynol hefyd:

  • Sgiliau Hanfodol – Cymhwyso Rhif
  • Sgiliau Hanfodol – Cyfathrebu
  • Sgiliau Hanfodol – Llythrennedd Digidol