Peiriannydd Nwy a Gwres Canolog Lefel 3 - Prentisiaeth
Ffôn 01792 284000 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer dysgwyr sy’n chwilio am gymhwyster yn y diwydiant gosod a chynnal a chadw nwy. Mae ar gael i ymadawyr ysgol yn ogystal â gweithwyr profiadol sy’n newydd i’r diwydiant ac sydd am fod yn beirianwyr gosod a chynnal a chadw nwy yn y sector domestig.
Bydd y brentisiaeth hon yn rhoi modd i ddysgwyr wneud cais am gofrestriad gyda’r Gofrestr Diogelwch Nwy yng nghategorïau CCN1 a CENWAT.
Yn ogystal, bydd y brentisiaeth yn cyflwyno dysgwyr i Reoliadau Dŵr a Dŵr Poeth Wedi’i Storio/Heb Awyrell, gan roi modd iddynt weithio ar systemau dŵr oer a phoeth dan reolaeth adeiladu.
Bydd y cwrs yn addysgu’r holl sgiliau sydd eu hangen ar gyfer adeiladu gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant nwy a gwresogi.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig mewn cwmni cofrestredig diogelwch nwy. Bydd hyn yn rhoi modd i ddysgwyr ennill y profiad perthnasol yn y sector nwy domestig a chwblhau eu portffolio o waith. Yn ogystal, rhaid bod dysgwyr yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’u lleoli yng Nghymru, i fod yn gymwys i gael cyllid prentisiaeth.
Argymhellir bod gan ddysgwyr dair gradd C neu uwch mewn Saesneg, Mathemateg a phwnc arall.
Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda nhw a’r cyflogwr i sicrhau bod y lefel a’r unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rôl unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn cwrdd â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.
Bydd disgwyl i’r dysgwyr fynychu un sesiwn addysgu yr wythnos yn yr ystafell ddosbarth drwy gydol y cymhwyster. Bydd yr addysgu hwn yn cynnwys hyfforddiant ymarferol a theori sy’n berthnasol i’r brentisiaeth.
Yn ogystal, bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau gwersi sgiliau hanfodol, a fydd yn cynnwys cymhwyso rhif a chyfathrebu.
Unedau
- Cymhwyso arferion gweithio a deddfwriaeth iechyd a diogelwch i’ch gwaith
- Deall egwyddorion gwyddonol mewn defnydd nwy
- Deall priodweddau hylosgi nwy
- Deall adeiladau, gwasanaethau a strwythurau
- Diogelwch nwy
- Gosod a thynnu pibellwaith nwy mewn lleoliadau domestig
- Cynnal profion tyndra nwy
- Y gwaith craidd penodol o osod a chynnal a chadw
- Gosod, gwasanaethu, atgfyweirio a thynnu teclynnau gwresogi dŵr nwy a gwres canolig gwlyb
- Canfod a chywiro namau trydanol ar declynnau nwy domestig
- Gwaith trydanol a rheoli systemau gwresogi domestig
- Dylunio a mesur systemau ar gyfer gosodiadau newydd neu drawsnewidiadau mewn lleoliad dpomestig
- Rheoliadau Cyflenwad Dŵr (Ffitiadau Dŵr) ac Is-ddeddfau Dŵr yn y DU
- Agweddau gosod, comisiynu a diogelwch systemau dŵr poeth ar gyfer defnydd domestig yn unol â rheoliadau adeiladu’r DU
I gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, bydd disgwyl i ddysgwyr gwblhau portffolio o waith ar y safle. Bydd cymysgedd o asesiadau yn y gweithle ac asesiadau ymarferol mewn gweithdy.
Bydd y brentisiaeth hefyd yn cynnwys asesiadau ysgrifenedig drwy gydol y rhaglen, a bydd pob uned a astudir yn cael ei asesu trwy arholiad theori ar-lein.