Skip to main content

Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Prentisiaethau Lefelau 2, 3, 4 a 5

Prentisiaeth, GCS Training
Amhriodol
Llys Jiwbilî
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn rhoi modd i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i fod yn rheolwyr ac yn arweinwyr, neu ddatblygu eu hunain ymhellach i rolau rheolwyr canol neu uwch. Achredir ein rhaglenni gan ILM a CMI, a byddant yn cyflwyno arferion arweinyddiaeth a rheolaeth allweddol gyda’r nod o gynorthwyo dysgwyr i gymhwyso’r sgiliau a ddatblygwyd yn eu gwaith.  

Lefel 2 / Lefel 3 - 18 mis 

Lefel 4 / Lefel 5 – 24 mis 

Gwybodaeth allweddol

Ar Lefel 2, mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer y rhai a hoffai fod yn arweinwyr tîm neu yn rheolwyr. Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn, a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. 

Ar Lefel 3, mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer y rhai a hoffai fod yn arweinwyr tîm neu yn rheolwyr. Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn, a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol.  

Ar Lefel 4, mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer rheolwyr sefydledig, pennaeth swyddogaethau neu reolwyr maes. Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn, a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. 

Ar Lefel 5, mae’r brentisiaeth yn addas ar gyfer uwch reolwyr, penaethiaid adran neu gyfarwyddwyr. Addysgir y rhaglen fel cymhwyster annibynnol y gellir ei ariannu’n llawn, a gellir ei ddefnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. 

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru. 

Learners will be allocated a dedicated tutor/assessor, who will work closely with both learners and employer to ensure the level and units selected are suited to their individual roles and organisational priorities. The delivery can be remote, or the tutor/assessor can visit the learner every 4-6 weeks at a location convenient for both learner and assessor.  

Learners will be expected to attend seminars or workshops, which will focus on the knowledge element of the qualification and support in developing understanding and skills. The learners will also be assigned project work set to their elected units, and create a project portfolio to demonstrate the application of their new skills.  

I gwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â phrosiect sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n caffael yr wybodaeth, yr offer a’r technegau sy’n gysylltiedig â phob uned a byddan nhw wedyn yn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. 

Bydd y prosiect, y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd grŵp a’r cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol. 

Strwythur Cwrs Lefel 2 

Mae rhaglen Lefel 2 yn cynnwys unedau o nifer o grwpiau gwahanol, gan gynnwys: 

  • Datblygiad personol 
  • Bod yn arweinydd tîm 
  • Datblygu cysylltiadau gwaith  
  • Monitro perfformiad tîm  

Strwythur Cwrs Lefel 3 

Mae rhaglen Lefel 3 yn cynnwys unedau o nifer o grwpiau gwahanol, gan gynnwys: 

  • Rheoli perfformiad tîm  
  • Egwyddorion rheoli pobl 
  • Egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth  
  • Rheoli gwrthdaro mewn tîm 

Mae’r rhaglen yn rhoi modd i ddysgwyr gael dealltwriaeth o’r hyn a ddisgwylir o reolwr.  

Strwythur Cwrs Lefel 4 

Mae rhaglen Lefel 4 ar gael naill ai fel tystysgrif neu ddiploma mewn egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth, neu fel diploma NVQ mewn rheolaeth. Mae’r dystysgrif yn gymhwyster byrrach, ac mae’n cynnwys dwy uned orfodol sy’n canolbwyntio ar ddealltwriaeth o’r rôl reoli a sut i arwain gweithgareddau cymhleth. Mae’r diploma yn cynnwys pedair uned orfodol gyda ffocws ar reoli newid a datblygu cysylltiadau. 

Strwythur Cwrs Lefel 5 

Mae rhaglen Lefel 5 ar gael naill ai fel diploma mewn egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth, neu fel diploma NVQ mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth. Mae’r diploma mewn egwyddorion arweinyddiaeth a rheolaeth yn cynnwys unedau fel rheoli gwelliannau, datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac arwain arloesi a newid. Mae’r diploma NVQ mewn rheolaeth ac arweinyddiaeth yn cynnwys unedau fel dylunio prosesau busnes, rheoli newid strategol a darparu arweinyddiaeth a rheolaeth.