Skip to main content

Tystysgrif HSE mewn Rhagoriaeth Arweinyddiaeth Iechyd a Diogelwch (NEBOSH) Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Tystysgrif HSE NEBOSH mewn Rhagoriaeth Arweinyddiaeth Iechyd a Diogelwch yn gymhwyster rhyngweithiol sy’n procio’r meddwl. Mae’r cynnwys yn tynnu sylw at y rhesymau moesol, cyfreithiol a busnes am arweinyddiaeth iechyd a diogelwch dda, ac mae’n cynnig arweiniad ar y meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt er mwyn ei chyflawni.

Mae’r cwrs yn galluogi dysgwyr i fod yn well eiriolwyr iechyd a diogelwch yn eich busnes.

Gwybodaeth allweddol

Caiff dysgwyr eu hasesu trwy ddatganiadau adfyfyriol a wneir drwy gydol y cwrs. Bydd hyn yn dangos sut y gallai gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau’r dysgwr gael effeithiau cadrnhaol a negyddol ar berfformiad iechyd a diogelwch yn eu sefydliad.

Bydd angen i ddysgwyr ymrwymo i ymyriad arweinyddiaeth a fydd yn gwella rheolaeth iechyd a diogelwch o fewn cwmpas eu dylanwad yn y gwaith.

Testunau

  • Ystyr arweinyddiaeth iechyd a diogelwch
  • Y rhesymau moesol, cyfreithiol a busnes am arweinyddiaeth iechyd a diogelwch dda
  • Y cysylltiadau rhwng arweinyddiaeth a diwylliant iechyd a diogelwch
  • Arddulliau arweinyddiaeth
  • Sut y gall methiannau dynol gael effaith ar berfformiad a diwylliant
  • Model yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o arweinyddiaeth iechyd a diogelwch effeithiol
  • Sut y gall arweinwyr feithrin cysylltiadau effeithiol â’r gweithlu.

Os bydd cyflogwyr yn rhoi cyfle i’w harweinwyr busnes ddilyn y cymhwyster hwn, bydd y manteision yn cynnwys:

  • Arweinyddiaeth sy’n adlewyrchu model yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch o arweinyddiaeth iechyd a diogelwch effeithiol
  • Bydd iechyd a diogelwch yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau busnes yn y dyfodol
  • Arweinwyr sy’n cydnabod sut mae eu hymddygiadau eu hunain yn cael effaith ar ddiwylliant iechyd a diogelwch.