Skip to main content

Tystysgrif Adeiladu Genedlaethol mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol (NEBOSH) Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
12 Diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Tystysgrif Adeiladu Genedlaethol NEBOSH mewn Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol yn galluogi dysgwyr i ddylanwadu'n well ar eu cydweithwyr ar y safle i weithio'n fwy diogel. Byddant yn medru gwneud hyn ar ôl ennill gwybodaeth am sut i fynd i’r afael ag ymddygiadau anniogel, gan gynnig atebion ymarferol. 

Gyda phwyslais ar gymhwysedd ymarferol, bydd dysgwyr llwyddiannus yn gallu:

  • Nodi, asesu a rheoli ystod o beryglon sy’n gysylltiedig ag adeiladu.
  • Meithrin systemau diogel o ran gweithio.
  • Cymryd rhan mewn ymchwiliadau i ddigwyddiadau penodol.
  • Ymgynghori ar rolau, cymhwysedd a dyletswyddau yn unol â deddfwriaethau adeiladu.
  • Dylanwadu'n gadarnhaol ar ddiwylliant iechyd a diogelwch.
  • Herio ymddygiad anniogel mewn modd hyderus.
  • Helpu i reoli contractwyr

Gwybodaeth allweddol

Ar ôl cwblhau Diplomâu Lefel 2 a Lefel 3, rhaid i ddysgwyr arddangos eu gallu yn y gweithle. Bydd dysgwyr yn cael eu gwahodd i sesiwn gychwynnol i egluro beth mae’r cymhwyster yn ei olygu, fel y gallwn fod yn sicr mai dyma’r cam nesaf cywir iddyn nhw cyn cofrestru.

Bydd y cymhwyster yn cymryd 12 diwrnod i'w gwblhau.

Yn unol â rheoliadau CDM, bydd y cymhwyster yn cael ei lywio gan ddeddfwriaethau perthnasol ond mi fydd yn canolbwyntio yn bennaf ar arferion gorau. Mae’r maes llafur eang yn cynnwys:

  • Rolau a chyfriofoldebau CDM
  • Diwylliant iechyd a diogelwch
  • Asesu risg
  • Rheoli newid
  • Cloddio
  • Dymchwel
  • Offer a cherbydau symudol
  • Gweithio mewn mannau uchel
  • Iechyd cyhyrysgerbydol
  • Cyfarpar gwaith
  • Trydan
  • Tân
  • Sylweddau cemegol a biolegol
  • Iechyd corfforol a seicolegol

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy asesiadau ymarferol a ddatblygwyd yn arbennig ar gyfer y rôl ymarferol hon.

Mae'r asesiad yn asesiad digidol a bydd yn seiliedig ar senario realistig a fydd yn profi'r hyn rydych chi'n ei wybod a'r hyn y gallwch chi ei wneud i ymateb. Bydd gofyn i chi gwblhau ystod o dasgau gan ddefnyddio tystiolaeth o'r senario a'r wybodaeth greiddiol a enillwyd yn ystod eich astudiaethau a'ch gwaith adolygu. Bydd gennych 48 awr i lawrlwytho, cwblhau a chyflwyno eich asesiad.

Bydd eich asesiad yn cael ei farcio gan arholwr allanol NEBOSH. Bydd yr arholwyr yn cael eu dewis ar sail eu profiad a'u harbenigedd i sicrhau bod dysgwyr yn cael eu hasesu gan y oreuon y diwydiant.