Skip to main content

Systemau Pwmp Gwres BPEC - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
BPEC
Tycoch
Pedwar diwrnod

Trosolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer peirianwyr sy’n gweithio ym maes gwasanaethau adeiladu, a bydd dysgwyr yn datblygu a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i osod, comisiynu, archwilio, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau pwmp gwres - nad yn cael eu defnyddio mewn oergelloedd - mewn amgylchedd domestig.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gall dysgwyr sicrhau achrediad MCS neu ymuno â chynlluniau gan unigolion cymwys i gofrestru gosodiadau.

Gwybodaeth allweddol

Mae’n ofynnol i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd mewn:

  • Rheoliadau dŵr/Is-ddeddfau Dŵr (WRAS, BPEC, ERC neu gyfwerth)
  • Systemau storio dŵr poeth heb eu hawyru (UVDHW) (ERS, BPEC neu gyfwerth) 
  • Effeithlonrwydd ynni ar gyfer gwresogi domestig (City and Guilds 6084 neu gyfwerth)
  • Tystiolaeth o osod systemau gwresogi ac o leiaf tair blynedd o brofiad mewn gosod systemau gwres canolog gwlyb, naill ai trwy ardystiad cyrsiau gwneuthurwr neu gofrestr Gas Safe, OFTEC, MCS, HETAS.

Rhaid i ddysgwyr hefyd ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd yn un o'r canlynol:

  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Plymwaith neu ardystiad hŷn cyfatebol, N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiadau Domestig) neu ardystiad hŷn cyfatebol
  • N/SVQ mewn Gwresogi ac Awyru (Gosodiadau Diwydiannol a Masnachol) neu ardystiad hŷn cyfatebol
  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gwasanaethau Technegol Tân ac Olew neu ardystiad hŷn cyfatebol
  • N/SVQ Lefel 2/3 mewn Gosod a Chynnal a Chadw Nwy neu ardystiad hŷn cyfatebol

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gymryd rhan mewn cyfweliad gyda thiwtor y cwrs. 

Cyflwynir y cwrs dros gyfnod o bedwar diwrnod, gan gynnwys un diwrnod asesu yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe ar Gampws Tycoch.

  • Systemau Dŵr Poeth Solar Thermol BPEC (NOS wedi'i fapio)

Asesir y cwrs trwy gyfres o arholiadau amlddewis ar-lein, ynghyd â chyfarwyddyd ac asesiad ymarferol.

Pris y cwrs yw £650, a fydd yn cynnwys cofrestru, llawlyfr a thystysgrif.

Mae’n hanfodol i ddysgwyr ddod â phrawf o bwy ydyn nhw (llun) ar ddiwrnod yr arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad.

BPEC Level 3 Award in the Installation & Maintenance of Heat Pump Systems
Cod y cwrs: YA1547 STP7
24/06/2024
Llys Jiwbilî
4 days
Mon - Thurs
8.30 - 5 pm
£0
BPEC Level 3 Award in the Installation & Maintenance of Heat Pump Systems
Cod y cwrs: YA1547 STP6
22/07/2024
Llys Jiwbilî
4 days
Mon - Thurs
8.30 - 5 pm
£0