Skip to main content

Cwrs LPG (Nwy Petroliwm Hylifedig) - hyfforddiant ac asesiad

GCS Training
Tycoch
Un i ddau ddiwrnod

Trosolwg

Mae Hyfforddiant LPG (Nwy Petroliwm Hylifedig) yn addas at gyfer gweithwyr profiadol sydd yn meddu ar naill ai Diogelwch Nwy Craidd Domestig (CCN1) neu Ddiogelwch Nwy Craidd Masnachol (COCN1). Bydd dysgwyr yn awyddus i weithio gyda pheiriannau LPG mewn eiddo ac adeiladau eraill.

Mae’r cwrs yn cynnwys CoNGLP1 PD; gosod, gwasanaethu a thrwsio offer domestig mewn eiddo parhaol; gall hefyd gynnwys categorïau ar gyfer offer LPG mewn cartrefi mewn parciau preswyl, cerbydau llety hamdden a thanau nwy ffliw caeedig. Mae’r categorïau hyn yn ddewisol a gallant gael eu teilwra i fodloni anghenion y gweithiwr. 

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, dylai dysgwyr gofrestru ar gynllun cynllun personau cymwys (Cofrestr Diogelwch Nwy). Ar ôl cofrestru, bydd dysgwyr yn gallu gweithio ar gategorïau LPG ardystiedig. 

Mae’r cwrs hwn hefyd yn addas ar gyfer peirianwyr sydd eisoes yn meddu ar y cymhwyster ac sy'n dymuno ymgymryd ag adnewyddiad pum mlynedd. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd gan ddysgwyr brofiad o weithio a chynnal a chadw Gosodiadau Nwy Naturiol, a byddant yn meddu ar naill ai Diogelwch Nwy Craidd Domestig (CCN1) neu Ddiogelwch Nwy Craidd Masnachol (COCN1). Rhaid i ddysgwyr hefyd feddu ar y cymhwyster nwy domestig naturiol ar gyfer y mathau o offer LPG y maent yn dymuno gweithio arnynt.

Bydd y cwrs yn cynnwys yr unedau canlynol:

  • CONGLP1 – Cyfnewid LPG  (gan gynnwys eiddo parhaol)
  • CONGLP1 LAV – Cerbydau Llety Hamdden
  • CONGLP1 RPH – Cartrefi Preswyl
  • CONGLP1 HTRLP2 – Tanau Nwy Ffliw Caeedig (LPG)

  • BPEC Solar Ffotofoltäig (NOS)
  • Systemau Dŵr Poeth Solar Thermol BPEC (NOS)
  • Systemau Pwmp Gwres BPEC (NOS)

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy arholiad ysgrifenedig amlddewis, yn ogystal ag asesiadau ymarferol sy'n cynnwys asesiadau senario ac asesiad mewn amgylchedd gwaith go iawn.