Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM) Lefel 4 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster ILM Lefel 4 mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn addas i ddarpar benaethiaid adran, arweinwyr tîm rhanbarthol a rheolwyr canol eraill a’r rhai sydd newydd ddechrau yn y rolau hynny. Mae’r cymhwyster yn rhoi modd i ddysgwyr ddeall y rôl yn llwyr wrth ennill gwybodaeth busnes gynhwysfawr yn ogystal â’r sgiliau sydd eu hangen i arwain ar y lefel hon.
Mae’r cymhwyster ar gael fel Dyfarniad cryno, Tystysgrif ehangach neu fel Diploma cynhwysfawr.
Gwybodaeth allweddol
Bwriedir y cymhwyster ar gyfer darpar reolwyr canol neu rai newydd.
Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig, a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod cynnwys yr uned yn addas i’w rolau unigol, eu blaenoriaethau sefydliadol, a bodloni gofynion y cymhwyster. Gall yr addysgu ddigwydd o bell, neu gall y tiwtor/aseswr ymweld â’r dysgwr bob pedair i chwe wythnos mewn lleoliad sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r aseswr.
Unedau
Mae’r unedau yn y cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar set benodol o sgiliau a gwybodaeth, mewn chwe maes eang:
- Gweithio gyda phobl
- Rheoli’ch hun a sgiliau personol
- Rhoi cyfarwyddyd
- Hwyluso arloesedd a newid
- Cyflawni canlyniadau
- Defnyddio adnoddau
Byddai ILM yn argymell y cymhwyster canlynol fel llwybr dilyniant posibl:
- Rheolaeth (ILM) Lefel 5 – Cymwysterau
Mewn cydweithrediad â’r Sefydliad Arweinyddiaeth, bydd dysgwyr yn cael mynediad at aelodaeth astudio’r Sefydliad. Mae’r aelodaeth hon yn rhoi mynediad at amrywiaeth o adnoddau a fydd yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth, rhoi hwb i hyder a gwella’r profiad dysgu.