Skip to main content

e-Chwaraeon Lefel 2

Amser-llawn
Lefel 2
Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Dyma gyflwyno ein cwrs e-Chwaraeon newydd sbon sy’n dechrau ym mis Medi!

Ar y cwrs hwn, cewch gyfle i archwilio’r llwybrau gyrfa amrywiol a deinamig sydd gan e-chwaraeon i’w cynnig ac ennill cyfoeth o sgiliau a gwybodaeth drosglwyddadwy i lwyddo yn y maes hwn sy’n datblygu trwy’r amser.

Mae e-chwaraeon yn fwy na gemio proffesiynol yn unig – mae’n ddiwydiant ffyniannus sy’n llawn cyfleoedd gyrfa amrywiol. 

Bydd myfyrwyr yn ennill profiad ymarferol yn egwyddorion craidd e-chwaraeon trwy amrywiaeth o brosiectau gwahanol, wrth gasglu portffolio o waith i arddangos eu sgiliau ar draws unedau gwahanol.

Bydd unedau ar y cwrs e-Chwaraeon yn cynnwys:

  • Gemau, timau a thwrnameintiau e-chwaraeon
  • Dechrau sefydliad e-chwaraeon
  • Ffrydio ar gyfer e-chwaraeon
  • Cynllunio digwyddiad e-chwaraeon
  • Menter mewn e-chwaraeon
  • Dylunio gêm e-chwaraeon
  • Iechyd a lles mewn e-chwaraeon.

Mae’r unedau hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a hyrwyddo eu hunain yn y diwydiant e-chwaraeon, gan greu portffolio sy’n arddangos eu sgiliau sy’n arddangos eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr.

Gwybodaeth allweddol

O leiaf bedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU.

Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb a thrwy asesu parhaus. Nid oes arholiadau ar y cwrs Lefel 2 hwn ar hyn o bryd.

Bydd myfyrwyr ar y cwrs e-Chwaraeon hwn yn gadael gyda chymhwyster a all arwain at y cwrs e-Chwaraeon Lefel 3.