Skip to main content

Celf a Dylunio Lefel 1 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 1
UAL
Llwyn y Bryn
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Trosolwg

Mae cwrs Diploma Lefel 1 mewn Celf a Dylunio yn rhaglen un flwyddyn sy’n meithrin galluoedd artistig ac yn rhyddhau eich potensial creadigol. Bydd myfyrwyr yn archwilio technegau, defnyddiau a phrosesau celfyddydol amrywiol gan ddatblygu sgiliau mewn darlunio, peintio, cerflunio a chelf ddigidol.  

Dan arweiniad tiwtoriaid profiadol, bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol gan fynegi syniadau’n weledol. Mae’r rhaglen yn annog arbrofi, meddwl beirniadol, ac archwilio celfyddydol, gan sefydlu sylfaen gref mewn celf a dylunio.  

P’un ai ydynt yn ddarpar beintwyr, ddarlunwyr neu ddylunwyr graffig, bydd y diploma hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol i fyfyrwyr ym maes celf a dylunio.  

Gwybodaeth allweddol

  • Tair gradd D-G ar lefel TGAU 
  • Mwy priodol i’r rhai na ddilynodd gwrs TGAU Celf yn yr ysgol. 

Bydd angen pasio 10 uned (dim arholiadau). Y graddau yw Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. 

Mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr yn symud ymlaen i’r cwrs Diploma Technegol Lefel 2 mewn Celf a Dylunio neu’r cwrs Diploma Technegol Lefel 2 mewn Ffotograffiaeth.

Mae ffi stiwdio £25 bob blwyddyn ar gyfer y cwrs hwn a bydd hwn yn talu am yr holl adnoddau sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn.