Busnes Lefel 3 - Diploma Estynedig
Trosolwg
Mae’r cwrs dwy flynedd hwn yn gyfwerth â thri chwrs Safon Uwch.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys cyfle i ddysgwyr ymchwilio i amrywiaeth o bynciau sy’n adlewyrchu’r llwybrau dilyniant mewn busnes. Mae’r rhaglen ddysgu yn cwmpasu’r meysydd canlynol: amgylcheddau busnes, cyllid, marchnata, busnes rhyngwladol, rheolaeth ac adnoddau dynol.
Mae’r cwrs BTEC Busnes yn anelu at roi’r canlynol i fyfyrwyr:
- Profiadau ymarferol o aseiniadau bywyd go iawn
- Cyfleoedd i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain
- Sylfaen wybodaeth gadarn
- Cyfleoedd i ddatblygu sgiliau rhyngbersonol a meddwl yn ymarferol
- Gwybodaeth o sut i weithio i friff gydag amserlenni gosod, gan gefnogi eu galluoedd rheoli amser.
Dylech astudio BTEC Busnes os:
- Mae’n well gennych ffordd fwy ymarferol o weithio
- Mae gennych ddiddordeb mewn rhedeg eich busnes eich hun
- Rydych yn barod i gymryd arweiniad i fod yn ddysgwyr annibynnol a gweithgar.
Gwybodaeth allweddol
- Pump gradd C neu uwch ar lefel TGAU
- Gan gynnwys Saesneg Iaith a Mathemateg.
Asesu:
- Unedau a asesir yn fewnol
- Unedau asesu dan reolaeth a asesir yn allanol
- Uned arholiad a asesir yn allanol.
Meini Prawf Graddio:
- Asesu mewnol (58%)
- Asesu allanol (42%)
Asesir unedau gan ddefnyddio graddfa Rhagoriaeth (D), Teilyngdod (M), Pasio (P), Bron Wedi Pasio (N) ac Annosbarthedig (U) . Mae’r radd Bron Wedi Pasio yn cael ei defnyddio ar gyfer unedau a asesir yn allanol yn unig. Mae cymwysterau’n cael eu graddio gan ddefnyddio graddfa PPP i D*D*D*.
Gallech chi aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ddilyn cwrs Addysg Uwch cysylltiedig â busnes neu gyfrifeg. Bydd cwblhau’r cwrs BTEC yn llwyddiannus yn rhoi pwyntiau UCAS i ddysgwyr ac mae’n cael ei gydnabod gan brifysgolion ar gyfer astudio cyrsiau gradd.
Yn ogystal, gall dysgwyr symud ymlaen i gyflogaeth, hyfforddiant a phrentisiaethau ym meysydd marchnata, gweinyddu, cyllid, gwasanaethau ariannol, caffael, rheoli digwyddiadau, adnoddau dynol a meysydd cysylltiedig eraill yn y sector busnes.