Addysg, ADY ac Iechyd Meddwl BA
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
NEWYDD am 2024
Corff llywodraethu: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Mae gan Addysg y grym i newid bywydau a rhoi cyfle i newid eich gyrfa a’ch llwybr. Mae’r cwrs newydd ac arloesol hwn yn edrych ar addysg o safbwynt holistig gan roi sylw i addysg gynradd ac uwchradd ond gyda phwyslais cryf ar y sector ôl-orfodol. Mae’n edrych ar sut i gefnogi dysgwyr a’u helpu i ddatblygu’n bersonol ochr yn ochr â datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau.
Mae ffocws clir ar roi eich sgiliau ar waith oherwydd mae yna fodiwl lleoliad bob blwyddyn ac mae asesiadau yn canolbwyntio ar ymarfer.
Cwrs amlddisgyblaethol yw hwn sy’n cynnwys cymdeithaseg, seicoleg, polisi cymdeithasol, theori addysgol, hanes a theori ddiwylliannol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn addysgu yn y sector ôl-orfodol, bydd cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn sicrhau cyfweliad i chi ar ein rhaglen TAR.
Gwybodaeth allweddol
Amser llawn: Trwy UCAS, cod y cwrs yw F16O
Rhan-amser: Ffurflen gais
Amser llawn: Addysgir y cwrs hwn dri diwrnod yr wythnos gyda lleoliad bob blwyddyn.
Rhan-amser: Ar hyn o bryd, addysgir y cwrs hwn un diwrnod yr wythnos a dau hanner diwrnod y flwyddyn ganlynol.
Modiwlau
Lefel 4
- Sut rydyn ni’n dysgu
- Cefnogi dysgwyr
- Iechyd a lles emosiynol
- Datblygu sgiliau astudio ar gyfer AU
- ADY ac ymarfer cynhwysol
- Ymarfer proffesiynol mewn addysg 1.
Lefel 5
- Addysg mewn cyd-destun
- Hyfforddi a mentora
- Iechyd meddwl
- Technoleg mewn addysg
- Ymarfer proffesiynol mewn addysg 2
- Ymarfer sy’n ystyriol o drawma.
Lefel 6
- Deall ymddygiad dysgwr
- Cyflwyniad i addysgu
- Materion cyfoes: cydraddoldeb a chynhwysiant mewn addysg
- Arweinyddiaeth a rheolaeth mewn addysg
- Ymchwil weithredu
- Ymarfer proffesiynol mewn addysg 3.
Asesu
Dim arholiad, 100% gwaith cwrs. Asesir y cwrs trwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys gweithgareddau ymarferol a rhyngweithiol yn ogystal â gwaith cwrs ysgrifenedig. Mae asesiadau cysylltiedig â’r lleoliad hefyd.
Mae’r cwrs yn cael ei raddio mewn canrannau yn unol â safonau Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Rolau cymorth myfyrwyr, hyfforddi athrawon, lleoliadau anghenion dysgu ychwanegol, rolau lles addysg, MA Addysg.
Costau’r cwrs
£9,000* y flwyddyn amser llawn. Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau AU amser llawn (mae hyn yn ddibynnol ar ddilyniant cwrs boddhaol).
£2,625* y flwyddyn yn rhan-amser.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Ffioedd ychwanegol
- Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- Costau llungopïo, nwyddau ysgrifennu ac offer (e.e. cofau USB)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio
- Costau gwibdeithiau ac ymweliadau achlysurol (opsiynol)
- £49.50 am wiriad DBS ar gyfer yr elfennau lleoliad o’r cwrs.
Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL)
Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr yn gallu gwneud cais am gydnabod dysgu blaenorol.
* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol