Peirianneg Integredig (BEng) - Prentisiaeth Gradd
Ffôn: 01792 284098 E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff llywodraethu: Prifysgol Caerdydd
Mae cyfle wedi codi i beirianwyr neu brentisiaid cyflogedig ennill gradd Anrhydedd Baglor Peirianneg nodedig gan Brifysgol Russel Group flaenllaw yng Nghymru. Mae Prifysgol Caerdydd wedi partneru â Choleg Gŵyr Abertawe i gynnig y cyfle cyffrous hwn i weithwyr presennol neu staff newydd eu recriwtio i gyflawni gradd BEng Anrh Peirianneg Integredig wedi’i hachredu’n llawn yn rhan-amser dros 5 mlynedd. Mae’n cael ei hariannu’n llawn drwy gynllun Prentisiaeth Gradd newydd Llywodraeth Cymru.
Bydd Prentisiaeth Gradd Peirianneg Integredig BEng yn adeiladu ar eich profiad cyflogaeth i ddatblygu’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen ar beiriannydd proffesiynol. Mae'r rhaglen yn cynnwys cymysgedd o fodiwlau peirianneg fecanyddol, trydanol a chyfrifiadurol a'i bwriad yw cynhyrchu peirianwyr sydd â gwybodaeth eang ac sy’n fedrus mewn mwy nag un o’r disgyblaethau peirianneg traddodiadol. Bydd dysgu seiliedig ar waith yn cynnwys prosiect diwydiannol sylweddol a myfyrio parhaus ar ddefnyddio’ch sgiliau yn y gweithle.
Gwybodaeth allweddol
O leiaf cymhwyster Lefel 3 mewn pwnc perthnasol (h.y. Safon Uwch neu gymhwyster Diploma Estynedig BTEC/EAL perthnasol mewn meysydd pwnc mathemategol, gwyddonol neu beirianegol) neu wybodaeth a phrofiad diwydiannol cyfwerth.
Sgiliau Mathemateg Lefel 3 (h.y. Safon Uwch Mathemateg neu BTEC/EAL Mathemateg Bellach neu wybodaeth ddiwydiannol gyfwerth).
Bod yn gyflogedig mewn rôl peirianneg mewn cwmni yng Nghymru sy’n gallu hwyluso prosiect peirianneg, ac a fydd yn eich rhyddhau am un diwrnod yr wythnos drwy gydol y 5 mlynedd.
Bydd darlithoedd yn digwydd un diwrnod yr wythnos dros bum mlynedd. Bydd y tair blynedd cyntaf (Lefel 4 a 5) yn cael eu haddysgu yn y Coleg a bydd y ddwy flynedd olaf (Lefel 6) yn cael eu haddysgu yn y Brifysgol.
Cewch diwtor personol sy’n aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd cysylltiedig â’ch cwrs gradd, yn ogystal â thiwtor yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a byddwch yn cwrdd â nhw yn unigol ac ar y cyd yn rheolaidd yn ystod pum mlynedd y rhaglen.
Modiwlau
Lefel 4
- Sgiliau Proffesiynol ac Academaidd ar gyfer Peirianneg
- Peirianneg Mathemateg a Chyfrifiadura
- Egwyddorion Trydanol
- Egwyddorion Electronig
- Egwyddorion Mecanyddol
- Peirianneg Dechnegol.
Lefel 5
- Thermohylifau
- Dylunio Cynhyrchion Integredig
- Mathemateg Gymhwysol a Pheirianneg Reoli
- Cymwysiadau Microreoli a Dylunio wedi’i Fewnblannu
- Peirianneg Reoli
- Defnyddiau a Gweithgynhyrchu
- Electroneg Peiriannau a Phŵer.
Lefel 6
Yn achos Lefel 6, bydd yr holl fodiwlau yn rhai Craidd a byddant yn cael eu rhannu ar draws y ddwy flynedd.
Blwyddyn 1 a 2:
Prosiect Prentisiaeth Gradd.
Blwyddyn 1:
Thermodynameg a Throsglwyddo Gwres
Peiriannau a Gyriannau Trydanol
Dylunio Cynnyrch.
Blwyddyn 2:
Rheolaeth Awtomatig
Systemau wedi’u Mewnblannu
Cyfrifiadura Peiriannneg Gwrthrych-gyfeiriadol
Pŵer Hylif a Rheolaeth.
Asesu
Cyfuniad o aseiniadau gwaith cwrs ac arholiadau wedi’u gosod ar gamau priodol wrth i’r modiwl fynd yn ei flaen. Mae arholiadau’n cyfrif am 50-60% o’r holl asesiadau trwy gydol y rhaglen. Mae modiwl arferol yn cynnwys arholiad ar y diwedd, ynghyd ag aseiniad gwaith cwrs.
Costau’r cwrs
Wedi’i ariannu’n llawn trwy gynllun Prentisiaethau Gradd newydd Llywodraeth Cymru.
Ffioedd ychwanegol
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.