Skip to main content

Galwedigaethau Trywel - Prentisiaeth Gwaith Brics

Prentisiaeth
Lefel 3
Diploma
Llys Jiwbilî
12-24 months
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Ar y cwrs blwyddyn/dwy flynedd hwn byddwch yn datblygu amrywiaeth o uwch sgiliau gosod brics gan gynnwys gwaith addurnol, atgyweirio a gwaith maen cymhleth. 
Byddwch yn ychwanegu at eich gwybodaeth bresennol o’r grefft a byddwch yn gallu gweithio ar dasgau arbenigol.

Byddwch yn ennill yr arbenigedd i weithio’n annibynnol, a byddwch yn gallu ymgymryd â rolau goruchwylio.

Diweddarwyd Tachwedd 2019

Gwybodaeth allweddol

Cymhwyster Lefel 2 a chyflogaeth yn y maes.

Unedau gorfodol / unedau dewisol:

  • Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith galwedigaethol da yn y gweithle
  • Gosod allan adeileddau gwaith maen cymhleth yn y gweithle
  • Codi adeileddau gwaith maen cymhleth yn y gweithle
  • Atgyweirio a chynnal a chadw adeileddau gwaith maen yn y gweithle

Sgiliau hanfodol:

  • Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Cyfathrebu Lefel 2
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth

Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi symud ymlaen i hunangyflogaeth a chyfloedd gyrfa pellach, gan gynnwys rheoli safle neu addysg uwch.

Bydd dysgwyr yn mynychu hyfforddiant un diwrnod yr wythnos i astudio’r Diploma Lefel 3 ar gyfer yr elfennau ymarferol a theori. Mae hyn yn cynnwys profion ymarferol a dewis lluosog. Tra byddwch yn y gwaith bydd rhaid i chi gasglu tystiolaeth o allu ar gyfer eich cymhwyster NVQ. Asesir yr NVQ trwy gasglu tystiolaeth ffotograffig, tystebau gan dystion ac ymweliadau â’r safle gan eich tiwtor/aseswr. Bydd prentisiaid yn cael mentor hyfforddi a fydd yn ymweld â nhw yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn hapus gyda’u cynnydd a’u bod ar y trywydd iawn i gyflawni. Bydd yn cymryd 12 - 24 mis i gwblhau’r fframwaith prentisiaeth yn dibynnu ar allu a phrofiad blaenorol.