NVQ Diploma mewn Gorffennu Addurniadol – Peintio ac Addurno
Trosolwg
Bydd y cwrs blwyddyn/dwy flynedd hwn yn ddelfrydol i’r rhai sy’n paratoi arwynebau ac yn defnyddio brws i beintio arwynebau cymhleth neu hongian gorchuddion wal.
Bydd yn rhoi cyfle i chi wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth mewn amrywiaeth o dechnegau gorffennu gan gynnwys gosod cilfwâu a mowldinau addurniadol, cotio gan ddefnyddio dulliau chwistrellu, stensilio, graenio, gwead crib, marmori a defnyddio deilen fetel.
Byddwch hefyd yn ennill tystysgrifau Sgiliau Hanfodol.
Diweddarwyd Tachwedd 2019
Gwybodaeth allweddol
Rhaid eich bod wedi cwblhau Lefel 2 mewn crefft berthynol.
Mae unedau gorfodol/dewisol yn cynnwys:
- Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle*
- Gosod a datgymalu offer mynediad/llwyfannau gweithio*
- Cadarnhau’r dull gwaith galwedigaethol
- Cadarnhau gweithgareddau gwaith ac adnoddau ar gyfer man gwaith galwedigaethol
- Taenu systemau paent ar arwynebau cymhleth gan ddefnyddio brws
- Datblygu a chynnal cysylltiadau gwaith galwedigaethol da
- Paratoi arwynebau ar gyfer peintio/addurno*
- Hongian gorchuddion papur wal safonol
- Hongian finylau lled eang
- Cynhyrchu a defnyddio dyluniadau stensil cymhleth
- Cotio gan ddefnyddio’r dull chwistrellu di-aer
- Cotio gan ddefnyddio’r dull chwistrellu aer
- Hongian gorchuddion wal ar arwynebau cymhleth
- Cynhyrchu gorffeniadau gwead crib
- Rhoi deilen fetel ar arwynebau
- Cynhyrchu gorffeniadau marmor replica o safon
- Hongian gorchuddion papur wal arbenigol
- Cynhyrchu gorffeniadau graenog replica o safon
- Gosod cilfwâu a mowldinau addurniadol
- Cotio i gynhyrchu gorffeniadau gweadog
- Cynhyrchu effeithiau rhaniadliw
- Cynhyrchu dyluniadau stensil gan ddefnyddio platiau stensil wedi’u torri ymlaen llaw
- Cynnyrchu effeithiau graenog syth
- Cynhyrchu effeithiau marmori
Sgiliau hanfodol:
- Cymhwyso Rhif Lefel 2
- Cyfathrebu Lefel 2
- Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth
* Nid oes rhaid cwblhau’r rhain os yw’r myfyriwr eisoes wedi ennill cymhwyster Lefel 2.