Skip to main content

Ffioedd cyrsiau rhan-amser

Rhaid talu’r holl ffioedd cwrs adeg cofrestru. Ar gyfer 2021/22, mae’r rhan fwyaf o gyrsiau’n cynnig proses cofrestru / talu ar-lein ond gallwch gofrestru yn bersonol hefyd ar Gampws Tycoch rhwng 9am-4.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.

Beth mae’r pris yn ei gynnwys? 

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae un ffi cwrs yn cynnwys costau gweinyddu, arholiadau (heblaw am ailsefyll arholiadau), costau ardystio mynediad i lyfrgelloedd y Coleg a rhai costau adnoddau ar gyfer bob blwyddyn astudio. Fel rheol, nid yw’r ffi cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu – fel arfer mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r rhain ar wahân.  

Gall fod costau ychwanegol i’w talu ar rai cyrsiau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y ffi a hysbysebir e.e. llyfrau/offer cyrsiau. Cysylltwch â ni neu gofynnwch am fanylion unrhyw gostau ychwanegol ar gyfer y cwrs o’ch dewis pan fyddwch yn cofrestru. 

Taliadau trydydd parti  

Os yw trydydd parti (megis cyflogwr) yn talu am eich cwrs, rhaid i chi ddod â thystiolaeth ategol i’r Coleg adeg cofrestru. Gall hyn gynnwys ffurflen 'Awdurdod i Aanfonebu', llythyr awdurdodi ffurfiol, hysbysiad talu cyllid myfyriwr neu archeb brynu. Cysylltwch â ni i weld pa drefniadau y mae’ch noddwr wedi’u gwneud â ni.  

Rhandaliadau 

Gellir trefnu cynlluniau talu ar gyfer cyrsiau sy’n fwy na £100, ac mae ffi weinyddol £10 am hyn. Ein cynlluniau talu yw 50% o ffi’r cwrs adeg cofrestru, wedi’i ddilyn gan ddau randaliad pellach. 

Cymhwystra i astudio 

Mae rheolau newydd cysylltiedig â phreswylio o dan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Os nad ydych yn gymwys o dan y cynllun hwn neu gynlluniau eraill sy’n rhoi mynediad i addysg ôl-16, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol. Gallwn drafod hyn gyda chi adeg cofrestru. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o’ch statws preswylio adeg cofrestru. 

Peidio â thalu  

Os nad yw’r ffioedd yn cael eu talu, bydd y Coleg yn cymryd camau i adennill y swm sy’n daladwy. Gall hyn arwain at weithredu i adennill y ddyled, ffi taliad hwyr a byddwn yn dal eich tystysgrifau academaidd yn ôl. Os bydd y trydydd parti yn methu â thalu, bydd y myfyriwr yn atebol i dalu cost y cwrs. Os byddwch yn tynnu’n ôl o’r cwrs, mae’n bosibl y byddwch yn parhau i fod yn atebol i dalu’r costau yn unol â’n polisi ad-daliadau. 

Os byddwn yn derbyn gwybodaeth ar ôl cofrestru sy’n newid eich statws preswylio, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi dalu ffioedd ychwanegol. 

Ad-daliadau  

Os ydym yn canslo dosbarth neu’n symud grŵp i ddiwrnod, amser neu leoliad gwahanol nad yw’n addas i chi, byddwn yn ad-dalu’r ffioedd cwrs yn llawn. Ar wahân i’r amgylchiadau hyn, ni fydd y Coleg yn ad-dalu ffioedd cwrs fel rheol. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd ffi weinyddu yn cael ei chodi am ad-daliadau.  

Polisi canslo 

Os nad yw dosbarthiadau’n llawn, cânt eu canslo neu eu cyfuno â dosbarth arall. Bydd y myfyrwyr sydd wedi cofrestru ar y rhaglenni hyn yn cael gwybod am unrhyw newid cyn dechrau’r cwrs. Os yw’n briodol, bydd dewisiadau eraill yn cael eu cynnig iddynt. I gael rhagor o fanylion ein polisi canslo, ffoniwch ni ar 01792 284000.  

Disgowntiau 

Mae’r costau ar gyfer cyrsiau rhan-amser ar y pris is i’r holl ddysgwyr.