Lluosi - Sesiynau Cymorth Mathemateg ar gyfer Gwaith
E-bost: multiply@gcs.ac.uk
Trosolwg
Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!
Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau Mathemateg ar gyfer Bywyd Bob Dydd, bydd y dosbarthiadau hyn yn eich helpu i wneud y cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r sgiliau mathemateg y bydd eu hangen arnoch yn y gweithle neu wrth ymgeisio am swyddi. Mae pob swydd yn defnyddio mathemateg, ac mae angen i chi feddu ar sgiliau rhif, sgiliau meddwl yn feirniadol, synnwyr cyffredin a’r gallu i ddatrys problemau.
Gall fod yn ansicr wrth drin rhifau gwneud i chi deimlo yn llai hyderus a’i gwneud hi’n anoddach symud ymlaen ar eich taith gyrfa.
Os ydych chi’n anghyfforddus yn cwblhau tasgau mathemateg yn y gwaith, nid yw hyn yn golygu nad ydych yn gallu eu cwblhau. Gydag ychydig o ymarfer a chymorth, gall unrhyw un wella ei sgiliau a magu hyder yn y gweithle. Os ydych wedi erioed wedi teimlo’n ansicr o ran eich sgiliau mathemateg, mae’r dosbarth dwy awr hon yn berffaith i chi.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau:
• 19+ oed
• Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.
Nid oes asesiad ar gyfer y cwrs hwn.
Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.