Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n ystyried dod i’n noson agored ar Gampws Gorseinon nos Iau 16 Tachwedd (5.30pm – 7.30pm).
Oherwydd ein gwaith ailwampio gwerth £17m ar y Campws – a fydd yn arwain at well cyfleusterau gan gynnwys lle cymdeithasol, atriwm newydd ac ystafelloedd dosbarth – mae’n bosibl y bydd pethau ychwanegol i’w hystyried cyn i chi ymweld â ni.
Cofrestrwch ymlaen llaw ar gyfer y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig y bydd hyn yn arbed amser ond bydd hefyd yn caniatáu i ni gadw mewn cysylltiad â chi gydag unrhyw ddiweddariadau am y digwyddiad.
Parciwch yn y prif faes parcio a gwneud eich ffordd i Floc A lle byddwn yn aros i’ch croesawu i’r Coleg. Dyma fap i unrhyw un nad yw’n gyfarwydd â Champws Gorseinon. Bydd y map hwn yn dangos i chi y ffordd orau o gerdded o gwmpas y Campws. Os bydd y tywydd yn wael ar y noson, gwisgwch yn briodol gan nad yw llawer o fannau ar y campws dan orchudd.
Bydd digon o staff a myfyrwyr wrth law ar y noson i’ch helpu i ganfod eich ffordd o gwmpas y Coleg.
Cymerwch gip ar ein rhaglen ar gyfer y digwyddiad – yma gallwch weld yr holl feysydd pwnc a’r meysydd cymorth fydd yn cael eu cynrychioli ar y noson.
Cofiwch, yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol, gallwch ddysgu rhagor am ein prentisiaethau, cyllid a chludiant, ein rhaglen Rhydgrawnt, academïau chwaraeon, cymorth iaith Gymraeg, a llawer mwy.
Bydd ein siop goffi ar agor ar y noson. Mae croeso i chi edrych o gwmpas ein llyfrgell.
Os byddwch yn penderfynu eich bod am wneud cais ar y noson, byddwch yn gallu gwneud hynny – gofynnwch i aelod o staff ar y bwrdd croesawu a byddwn ni’n gallu helpu.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein nosweithiau agored, e-bostiwch marketing@gcs.ac.uk