Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnal noson agored ar Gampws Tycoch nos Lun 20 Ionawr i’r rhai a hoffai astudio cyrsiau amser llawn ac addysg uwch.
Gan fod y campws mor fawr a helaeth, isod rydym wedi darparu gwybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr ar y noson:
Canolfan Broadway:
Os hoffech astudio cwrs gwallt, harddwch neu holisteg gallwch wneud eich ffordd yn uniongyrchol i Ganolfan Broadway os yw’n well gennych. Lleolir hon ar ben uchaf Campws Tycoch.
Hill House:
Os hoffech astudio cwrs cyfrifiadura a TGCh neu dirlunio gallwch wneud eich ffordd yn uniongyrchol i Ward 4 yn Hill House (y tu ôl i Gampws Tycoch).
Adeilad Peirianneg:
Os hoffech astudio peirianneg, plymwaith, trydanol neu gerbydau modur, gallwch wneud eich ffordd i’r adeilad peirianneg a leolir tua chanol Campws Tycoch.
Prif Adeilad:
Ar gyfer holl gyrsiau amser llawn ac Addysg Uwch eraill, dewch i’r brif dderbynfa a byddwn ni’n mynd â chi i’r lle iawn. Bydd ein llyfrgell a’n siop Costa Coffee ar agor ar y noson yn y prif adeilad. Yn ogystal, bydd anerchiadau croeso am 5.30pm, 6pm a 6.30pm yn yr atriwm.
Mae parcio yn rhad ac am ddim ond mae’n cael ei ddarparu ar sail y cyntaf i’r felin.
Bydd mapiau o’r campws ar gael ar y noson.