Mae myfyrwyr a staff yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi dathlu ailagoriad swyddogol llyfrgell campws Tycoch.
Mae’r lle dysgu arloesol, a agorwyd gan yr awdur plant a chyflwynydd BBC Cymru, Lucy Owen, yn cynnwys lle cydweithredu, stiwdio technoleg gwybodaeth dysgu, bwth acwstig a lleoedd astudio unigol / mewn grwpiau.
Yn ogystal â chynnwys y gwerslyfrau diweddaraf, mae gan y llyfgell well mynediad i WiFi ac mae socedi USB/pŵer wedi cael eu gosod yn y celfi fel y gall myfyrwyr ymchwilio i gyfoeth o adnoddau electronig ar gyfrifiaduron personol y Coleg a gliniaduron ar eu dyfeisiau eu hunain.
Llosgwyd y llyfrgell wreiddiol yn ulw ac roedd dŵr a mwg wedi dinistrio pedwar llawr prif adeilad y campws yn llwyr. Dechreuodd y tân yn oriau mân y bore ar 28 Hydref 2016.
“Dyma gyfle gwerthfawr iawn i gymeradwyo’r holl waith caled a wnaed i gael y llyfrgell yn barod ar gyfer dechrau’r tymor Coleg newydd,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Roedd hi’n flwyddyn heriol iawn i bawb ar gampws Tycoch – staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Roedd rhaid i’n timau Ystadau a Gwasanaethau Cyfrifiaduron a’n holl gontractwyr ailadeiladu’r llyfrgell o’r dechrau, a hefyd, wrth gwrs, roedd ein staff Llyfrgell wedi gwneud jobyn gwych i sicrhau bod y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu i’n myfyrwyr heb gael ei effeithio gormod gan y digwyddiadau tra roedden nhw’n gweithio mewn adeiladau dros dro. Mae heddiw yn gyfle i ddiolch i bawb oedd wedi chwarae rhan yn y gwaith o ailadeiladu’r llyfrgell a hefyd i ddangos y bobl hynny o amgylch y cyfleuster gwych newydd hwn i fyfyrwyr.”
Rwy'n falch iawn i ailagor yn swyddogol y llyfrgell yma ar Gampws Tycoch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe," dywedodd Lucy, a gyhoeddodd ei llyfr plant ei hun - Boo-A-Bogi in the Park/Bw-A-Bog yn y Parc - yn 2016 i godi arian ar gyfer Ysbyty Plant Arch Noa Cymru. "Mae'n wych gweld yr holl waith caled sydd wedi cael ei wneud i ailadeiladu'r lle ar ôl y tân y llynedd. Mae'n llyfrgell eang, fodern a newydd ac rwy'n siŵr y bydd y myfyrwyr yn mwynhau ei defnyddio wrth iddynt barhau â'u hastudiaethau."
Mae’r llyfrgell newydd, a gafodd ei dylunio a’i dodrefnu ar y cyd â BOF ac Opening the Book, yn lle golau â digon o awyr sy’n ystyried anghenion ac arddulliau dysgu’r holl fyfyrwyr. Er engharifft, mae desgiau y gellir addasu eu huchder i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn ac mae lleoedd amgaeedig i ddysgwyr ASD a hoffai weithio mewn lle mwy preifat efallai.
Mae blaen yr ystafell yn addas ar gyfer gwaith cydweithredol, gyda byrddau y gellir eu symud o gwmpas a seddau meddal fel y gall pobl gael clonc wrth astudio.
Tua chefn y llyfrgell, mae silffoedd uchel wedi cael eu lleoli sy’n weddu i ddysgwyr a hoffai weithio mewn lle ‘tawel’ mwy traddodiadol neu a hoffai weithio ar brosiectau unigol.
Yn ystod y lansiad, roedd myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo’r Coleg wedi gweini te prynhawn blasus a ‘chacen llyfrau’ arbennig, a wnaed gan Celebration yn Uplands, ac roedd hyn yn destun siarad gan lawer.
“Cawson ni gyfle cyffrous iawn i greu lle dysgu sy’n darparu ar gyfer dysgwyr heddiw,” ychwanegodd Rheolwr y Llyfrgell Mark Ludlam. “Mae cannoedd o fyfyrwyr ac aelodau o staff yn defnyddio’r cyfleuster newydd hwn bob dydd ac mae’r adborth rydyn ni wedi’i gael hyd yn hyn wedi bod yn hynod gadarnhaol.”