Mae myfyrwyr TG o gampws Tycoch Coleg Gŵyr Abertawe wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â Phrosiect Pobl Ifanc Sengl Ddigartref Abertawe (SYSHP) i’w cynorthwyo i ddatblygu gwefan benodedig.
Yn ystod ymweliad diweddar â’r sefydliad, roedd myfyrwyr Lefel 2 a Lefel 3 wedi cael cyfle i ddeall gwerthoedd craidd y prosiect a gwerthfawrogi’r rôl hanfodol mae’n ei chwarae yn y gymuned leol.
Mae SYSHP yn rhoi cymorth i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy’n cael eu gwneud yn ddigartref.
Mae myfyrwyr nawr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth lle byddant yn gyfrifol am ddatblygu gwefan i dynnu sylw at y ddarpariaeth ragorol mae’r sefydliad hanfodol hwn yn ei chynnig i bobl ifanc sy’n byw yn Abertawe.
Bydd cynrychiolwyr SYSHP, ynghyd ag aelodau o gymuned fusnes Abertawe, yn barnu’r wefan orau a disgwylir i’r ymgais buddugol gael ei ddatblygu fel gwefan y sefydliad hwnnw.
"Wrth gwblhau’r prosiect hwn bydd y myfyrwyr yn meithrin sgiliau a all gael eu defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer cymhwyster Bagloriaeth Cymru a sgiliau allweddol," dywedodd y darlithydd Bev Morgan. "Bydd hefyd yn rhoi profiad gwaith gwerthfawr iawn a bydd yr holl fyfyrwyr sy’n cymryd rhan yn elwa’n fawr ar y profiad hwnnw wrth ystyried mentro i’r diwydiant.
Bydd y tîm buddugol yn cael talebau y gellir eu defnyddio ym mwyty Cosmos yn Abertawe. Mae’r gyfadran yn ddiolchgar i Carolyn Hughes am ei chymorth gyda’r prosiect hwn. Penderfynodd Carolyn gymryd rhan yn y prosiect yn 2014, ar ôl ymweld â’u lle yn Heol Walter ac edmygu’r gwaith maen nhw’n ei wneud a sut maen nhw’n helpu’r bobl ifanc ddigartref yn Abertawe.