Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n meddwl am ddod i’n noson agored ar Gampws Tycoch ddydd Llun 20 Ionawr.
Mae’r noson agored yn dechrau am 5.30pm a bydd yn gorffen am 7.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa pan fyddwch chi'n cyrraedd.
Gair o Groeso (Prif Neuadd): 5.30pm; 6pm; 6.30pm
Cofrestrwch ymlaen llaw am y digwyddiad os gallwch. Nid yn unig bydd hyn yn arbed amser pan fyddwch chi’n cyrraedd ond bydd hefyd yn rhoi modd i ni gadw mewn cysylltiad â chi gydag unrhyw newyddion.
Edrychwch ar ein rhaglen ar gyfer y digwyddiad – gallwch chi weld yr holl feysydd pwnc a meysydd cymorth fydd yn cael eu cynrychioli ar y noson.
Cofiwch – yn ogystal â chael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau galwedigaethol, gallwch ofyn i ni am brentisiaethau, cyllid a chludiant, academïau chwaraeon, cymorth iaith Gymraeg, a llawer mwy.
Dyma fap i unrhyw un nad yw’n gyfarwydd â Champws Tycoch.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein nosweithiau agored cysylltwch â ni yn marketing@gcs.ac.uk