Mae dysgwyr sy'n oedolion yn troi eu llwyddiannau astudio yn gyfleoedd sy'n gwneud gwahaniaeth i'w bywydau teuluol - diolch i'r gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe.
Mae arolygwyr Estyn wedi canmol y gwaith penodol, arloesol a gwerth chweil sy'n cael ei wneud gan Bartneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned a'r cymorth y mae'n ei roi i bron 8000 o bobl ar hyd a lled y ddinas. Mae'r gwasanaeth wedi gweld pobl yn troi eu haddysg yn gyfleoedd cyflogaeth a busnes yn ogystal â gwella eu sgiliau sylfaenol mewn meysydd allweddol fel mathemateg a Saesneg, neu helpu eu plant i gael dechrau gwell mewn bywyd..
Mae'r straeon llwyddiant yn cynnwys un dysgwr a astudiodd gwrs gwneud gemwaith sydd erbyn hyn yn gwerthu ei darnau yn fasnachol, myfyriwr cwrs trefnu blodau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a sefydlodd ei busnes ei hun, a'r rhai a fu'n dilyn cwrs coginio i dadau sydd wedi gwella eu sgiliau rhianta a phresenoldeb eu plant yn yr ysgol hefyd.
Cyngor Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe yw prif ddarparwyr rhaglenni Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned, a chafodd y bartneriaeth ei graddio’n dda yn gyffredinol gyda rhagolygon gwych ar gyfer gwella gan yr arolygwyr addysg Estyn. Maen nhw'n awyddus i'r arferion ardderchog a welwyd yn ystod yr arolygiad gael eu lledaenu ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Jen Raynor, aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Addysg: "Rwy'n falch iawn bod llwyddiant y bartneriaeth nawr, a'r weledigaeth sydd gennym ni i gyd ar gyfer y dyfodol, wedi cael eu cydnabod gan Estyn. Mae'r adroddiad yn dangos bod addysg oedolion yn newid bywydau er gwell ar draws Abertawe. Mae'n cael effaith gadarnhaol ar gymunedau, teuluoedd a'r economi leol. Yn ogystal â rhoi hwb i bobl a rhoi cyfle iddyn nhw chwarae rôl fwy cynhyrchiol yn eu cymuned a gyda'u teuluoedd, mae dysgwyr yn defnyddio eu sgiliau newydd i gael swydd neu sefydlu busnes."
Dywedodd Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: "Ar ran yr ystod eang o bartneriaid a gyfrannodd at gynllunio a chyflwyno dysgu oedolion yn y gymuned ar draws Abertawe, credwn fod hwn yn adroddiad teg sy'n cydnabod gwir gryfderau'r bartneriaeth a'i phenderfyniad i wneud hyd yn oed mwy o gyfraniad er lles oedolion yn ninas a sir Abertawe."
Mae 7762 o bobl wedi cofrestru gyda'r bartneriaeth ar gyrsiau mor eang â sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol, bwyta'n iach, trefnu blodau, gwneud gemwaith, ffotograffiaeth, TGCh a gwaith coed, i enwi dim ond rhai.
Yn ôl Estyn, roedd Partneriaeth Dysgu Abertawe yn cydweithio'n dda iawn fel sefydliad a gyda sefydliadu eraill fel Cymunedau yn Gyntaf, i ddarparu cyrsiau wedi'u targedu mewn lleoliadau hawdd eu cyrraedd i ddysgwyr, ac mae adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol i gefnogi cyflawniad. Mae wedi cael ei chanmol am ddeall y nod o sicrhau bod pob oedolyn yn yr ardal, beth bynnag fo'i allu, yn gwireddu ei botensial.
Mae dysgwyr sy'n oedolion yn Abertawe yn cyrraedd safonau da ac yn gwneud cynnydd da, gan berfformio'n well na'r cyfartaledd cenedlaethol. Mae dysgwyr o ardaloedd mwyaf difreintiedig y ddinas yn gwneud lawn cystal â dysgwyr o rannau eraill o'r sir.
Mae cyrsiau penodol, fel sgiliau hanfodol yn yr amgylchedd a gwaith coed, yn denu dynion ifanc sydd am wella eu rhagolygon o gael swydd.
Mae Estyn wedi gwahodd y bartneriaeth i baratoi astudiaeth achos ysgrifenedig ar yr arferion ardderchog a welwyd yn ystod yr arolygiad er mwyn gallu lledaenu arferion da ar draws Cymru.