Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori Lefel 2 - Diploma
Trosolwg
Bwriedir y cwrs Lefel 2 hwn i ddysgwyr 16+ oed yn benodol, er mwyn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ddechrau gyrfa lewyrchus mewn gofal plant. Mae’r cwrs yn fan cychwyn perffaith ar gyfer eich gyrfa mewn addysg blynyddoedd cynnar, p’un a ydych chi am weithio mewn meithrinfeydd, ysgolion, neu fel gwarchodwr plant.
Byddwch yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol, a phrofiad ymarferol i wneud effaith gadarnhaol ar fywydau plant ifanc. Dros y flwyddyn, byddwch yn mynychu lleoliad gwaith a sesiynau a addysgir yn y Coleg gan staff cyfeillgar, cefnogol a gwybodus.
Gwybodaeth allweddol
- Dwy radd C ar lefel TGAU ac o leiaf radd D mewn Saesneg Iaith, or gwrs Lefel 1 addas gydag adroddiad tiwtor cadarnhaol.
- Rhaid i chi gwblhau DBS cyn cofrestru ar y cwrs (tua £40).
Mae dwy elfen i’r cwrs amser llawn hwn: CBAC Lefel 2 Craidd a Lefel 2 Ymarfer a Theori a fydd yn cael eu cwblhau dros un flwyddyn academaidd.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Craidd, byddwn ni’n eich paratoi i basio un asesiad amlddewis.
Er mwyn cyflawni’r cymhwyster ymarfer a theori, byddwn ni’n eich cefnogi i gwblhau portffolio lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys arsylwi a chynllunio gweithgareddau i blant 0-7 oed.
Yn ogystal, byddwch yn cwblhau arholiad theori seiliedig ar gynnwys a addysgir yn y dosbarth gyda chyfle i’w ailsefyll.
Bydd yr holl asesiadau yn arwain at radd pasio neu fethu.
Bydd pasio’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i chi wneud cais am y canlynol:
- Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 (amser llawn neu brentisiaeth)
- Cyflogaeth mewn meithrinfa ddydd neu leoliad Dechrau’n Deg fel ymarferydd gofal plant dan oruchwyliaeth
- Cyflogaeth fel cynorthwyydd addysgu.
- Byddwn ni’n eich helpu i ddod o hyd i leoliad addas pan fyddwch yn dechrau gyda ni
- Bydd angen DBS glân (gwiriad yr heddlu) cyn dechrau.