Datblygu Cymunedol Lefel 3 - Prentisiaeth
Trosolwg
Nod y cwrs Datblygu Cymunedol yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i weithio’n effeithiol yn y gymuned. Mae’r rhaglen yn cyfrannu at y gymuned trwy gynhyrchu’r genhedlaeth nesaf o weithwyr cymunedol a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.
Bwriedir y rhaglen yn bennaf i’r rhai sy’n gweithio yn y gymuned ac mae’n cydnabod y rhai sy’n ymwneud â’r sector cymunedol. Gellir ei defnyddio i uwchsgilio staff presennol neu recriwtio talentau newydd i sefydliad.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r rhaglen wedi’i chynllunio i’w haddysgu ochr yn ochr â chyflogaeth, profiad gwaith neu waith gwirfoddol, a gellir ei hariannu’n llawn gan Lywodraeth Cymru.
Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol a’u blaenoriaethau sefydliadol. Bydd y tiwtor/aseswr yn ymweld â’r dysgwyr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.
Bydd dysgwyr yn derbyn gwaith seiliedig ar yr unedau maen nhw wedi’u dewis, a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl o ddydd i ddydd i ddangos eu bod yn cymhwyso eu sgiliau newydd. Mae’n bosibl y bydd disgwyl iddynt fynychu gweithdai, yn dibynnu ar lwybr cyllid y cymhwyster.
Unedau gorfodol:
- Gwerthoedd a phrosesau datblygu cymunedol
- Deinameg grwpiau cymunedol
- Arferion datblygu cymunedol myfyriol
- Anghydraddoldeb cymdeithasol, anghyfiawnder ac amrywiaeth mewn cymunedau
- Pennu anghenion cymunedol
- Datblygu grwpiau cymunedol
Unedau dewisol:
- Deall gweithio mewn partneriaeth mewn cymunedau
- Trefnu digwyddiadau yn y gymuned
- Datblygu a chynnal partneriaethau yn y gymuned
- Cynllunio prosiectau yn y gymuned
Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â gwaith sy’n berthnasol i’w rolau a’u hamgylchedd dysgu. Byddan nhw’n ennill yr wybodaeth, yr arfau a’r technegau cysylltiedig â phob uned ac yna byddan nhw’n eu rhoi nhw ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol. Bydd y gwaith a roddwyd a’r dystiolaeth a gasglwyd yn cael eu hadolygu yn y cyfarfodydd un-i-un gyda thiwtoriaid/aseswyr a’u defnyddio at ddibenion asesu.