Y Celfyddydau Creadigol a Gweledol
Y Celfyddydau Creadigol ar Gampws Gorseinon
Rydym yn cynnig cyrsiau celf greadigol sefydledig ar lefel Safon Uwch mewn Dylunio Tecstilau, Celfyddyd Gain, Cyfathrebu Graffig a Ffotograffiaeth. Bwriedir y cyrsiau celf sylfaenol hyn i’r rhai sydd am ddilyn gyrfa ar lefel broffesiynol. Cânt eu haddysgu yn ein canolfan bwrpasol ar gyfer y Celfyddydau Creadigol a Pherfformio. Mae’r amgylchedd ysbrydoledig hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu creadigrwydd unigryw eu hunain mewn meysydd astudio arbenigol.
Addysgir y cyrsiau trwy ddarlithoedd, gweithdai ysgogol dan arweiniad artistiaid/tiwtoriaid ac astudio annibynnol. Cefnogir y mygfyrwyr hefyd gan sesiynau tiwtorial rheolaidd a thrafodaethau grŵp.
Mae cystadlaethau’n rhoi cyfle i’r holl ddysgwyr ehangu eu harddull unigryw a datblygu profiadau allgyrsiol.
Trefnir gwibdeithiau drwy gydol y flwyddyn i arddangosfeydd cyfredol a digwyddiadau eraill o ddiddordeb.
Cynhelir arddangosfa ar ddiwedd y flwyddyn sy’n arddangos ac yn dathlu gwaith unigryw a chreadigol y myfyrwyr.
Y Celfyddydau Gweledol ar Gampws Llwyn y Bryn
Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu haddysgu ar gampws hanesyddol Llwyn y Bryn. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Celfyddydau Gweledol amser llawn mewn Celf a Dylunio, Ffotograffiaeth, a Ffasiwn a Thecstilau. Addysgir y cyrsiau hyn gan ymarferwyr rhagorol sydd â chyfoeth o brofiad addysgu a phrofiad o fyd diwydiant. Mae ein canlyniadau sy’n arwain y sector yn adlewyrchu hyn, gyda nifer fawr o ddysgwyr yn symud ymlaen yn rheolaidd i brifysgolion blaenllaw y Celfyddydau, a’n llwyddiant yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, lle mae dysgwyr wedi ennill Aur yng nghategorïau Cerddoriaeth, Celf a Ffasiwn.
Ar gael hefyd mae amrywiaeth o gyrsiau rhan-amser, prentisiaeth mewn Ffasiwn a Thecstilau a Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn.
Chwilio am gwrs Celf, Crefft a Ffotograffiaeth
Celf a Dylunio Lefel 1 - Diploma
Lefel 1 BTEC Diploma
Celf a Dylunio Lefel 2 - Diploma Technegol
Lefel 2 OCR
Celf a Dylunio Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 OCR
Celf a Dylunio Lefel 3 - Diploma Sylfaen
Lefel 3 WJEC
Crochenwaith a Serameg
Lefel 2
Cyflwyniad i Appliqué Peiriant Lefel 2
Lefel 2 AGORED
Cyflwyniad i Dechnegau Motiff Crosio Lefel 1
Lefel 1 AGORED
Cyflwyniad i Glytwaith Lefel Mynediad 3
Lefel Mynediad 3 AGORED
Cyflwyniad i Wau â Llaw Lefel 1
Lefel 1 AGORED
Cyflwyniad i Wneud Bag Tôt Lefel 2
Lefel 2 AGORED
Cyflwyniad i wneud clustogau Lefel 1
Lefel 1 AGORED
Darlunio
AGORED
Datblygu Sgiliau Gwnïo (CDP)
Lefel 1 AGORED
Ffasiwn a Thecstilau Lefel 1 - SEG Dyfarniad
Lefel 1 SEG
Ffotograffiaeth
AGORED
Ffotograffiaeth Lefel 2 - Diploma Technegol
Lefel 2 OCR
Ffotograffiaeth Lefel 3 - Diploma Estynedig
Lefel 3 OCR
Gofaint Arian - Canolradd / Uwch
Lefel 3
Golygu Digidol
Lefel 1 AGORED
Gwneud Printiau
AGORED
Lluniadu Lefel 1 / Lefel 2
Lefel 1/2
Mynediad 2 Mowldio a Chastio Cyfryngau Cymysg Mynediad Lefel 2
Lefel Mynediad 2 AGORED
Photoshop Creative Cloud – Dechreuwyr (CDP)
Lefel Mynediad
Safon Uwch Astudiaethau Cyfryngau
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Celfyddyd Gain
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Dylunio Graffig (Cyfathrebu)
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Dylunio Tecstilau (Ffasiwn/Dylunio Mewnol)
Lefel 3 A Level
Safon Uwch Ffotograffiaeth
Lefel 3 A Level
Serameg a Gwneud Mowldiau
AGORED
Sgiliau Gwnïo
AGORED
Technegau Gwydr
AGORED
Trefnu Blodau
AGORED