Cyflwyniad i Greu Celf ar gyfer Iechyd a Lles
Trosolwg
Bydd y cwrs byr hwn yn rhoi cyflwyniad i’r cysylltiad rhwng arferion celf a lles. Wrth ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu sgiliau newydd o fewn arferion creadigol megis peintio a darlunio ynghyd â gweithdai eraill, byddwn yn archwilio sut mae creadigrwydd yn gallu hyrwyddo lles a hwyluso cyfathrebu, gan helpu i leddfu symptomau straen a gorbryder.
Yn addas i ddechreuwyr a’r rhai sy’n gobeithio ailgysylltu â’u hochr greadigol.
Bydd y sesiynau wythnosol yn cael eu haddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar gyflymdra cyfforddus gan ganiatáu amser ar gyfer ymarfer a thrafodaeth. Mae sesiynau creadigol ymarferol yn cynnwys amser ar gyfer trafodaeth grŵp a hunanfyfyrio. Bydd rhai o’r ymarferion yn cynnwys archwilio pynciau megis:
- Gwerth gwneud celf ar iechyd a lles
- Celf sy’n archwilio’r deinamig teuluol
- Hunaniaeth
- Galar
Erbyn diwedd y sesiwn, byddwch wedi:
- Trafod pynciau celf a lles
- Cysylltu ag eraill sydd â diddordeb yng ngwerth y celfyddydau ac iechyd
- Arbrofi ag amrywiaeth o ddeunyddiau
- Dechrau datblygu’ch arferion eich hun mewn celf a lles
16/08/22
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad penodol ar gyfer y cwrs hwn.
Bwriedir y cwrs i’r rhai sydd â diddordeb yn y celfyddydau ac iechyd sydd am ddarganfod sut mae ymarfer creadigol yn gallu newid eich lles mewn ffordd bositif. Nid yw’r cwrs yn ymwneud â thalent na’r canlyniad, ond mae’n ymwneud â’r broses a’r hyn y gallwch ei ennill o ddatblygu ymarfer celf.
Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth, mewn sesiynau dwy awr unwaith yr wythnos. Mae hyn yn gyfanswm o 16 awr o wersi dros gyfnod o wyth wythnos.
Er y bydd myfyrwyr yn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn ystod y cyfnod hwn, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn treulio amser ychwanegol bob wythnos yn astudio’r pwnc i sicrhau lefelau uchel o lwyddiant.
Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster anachrededig a fydd yn rhoi profiad a phortffolio o waith i’r dysgwyr. Rydym am wneud yn siŵr y gallwch ddangos ffrwyth eich gwaith caled.
Os byddwch yn dod i o leiaf 80% o’ch dosbarthiadau, byddwn yn rhoi tystysgrif presenoldeb i chi. Argymhellir eich bod yn dod i bob gwers fel y gallwch gael y mwyaf allan o’r profiad.