Darlunio
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyfle i ddatblygu sgiliau darlunio digidol traddodiadol a chyfoes p’un ai ydych chi am ddysgu’r hanfodion neu ddatblygu’r sgiliau sydd eisoes gennych ymhellach.
Bydd y gweithdai yn cwmpasu amrywiaeth o dechnegau gwneud printiau a byddan nhw’n eich annog i archwilio’ch syniadau’ch hun i’w datblygu. Byddwch chi’n ystyried persbectif, tôn a ffurf yn ogystal â rhoi lliw i amgylcheddau a ffurf ddynol. Byddwch chi’n gweithio yn ein stiwdios yn Llwyn y Bryn, a chewch fynediad i dabledi lluniadu, meddalwedd Adobe, ystafell Adobe Mac a stiwdio luniadu draddodiadol a deunyddiau.
Gwybodaeth allweddol
Does dim angen profiad blaenorol, dim ond diddordeb yn y maes pwnc. Byddai’n fuddiol i ddysgwyr fynychu bob tymor i gynyddu sgiliau yn barod ar gyfer cyrsiau tymor dau a thymor tri, er nid yw hyn yn rhwystr i fynychu bob tymor fel cwrs annibynnol.