Skip to main content

Cardiau Cyfarch sy’n Cynnwys Gwaith Pwytho â Llaw

Rhan-amser, GCS Training
TBC
Tair awr

Trosolwg

Archwiliwch y grefft o wneud cardiau trwy ymarfer therapiwtig pwytho. Mae’r cwrs byr hwn yn cynnig cyfle unigryw i ddefnyddio technegau pwytho yn y grefft o wneud cardiau.

Pwythwch gyda hyder, gan ddefnyddio technegau pwytho syml a fydd yn rhoi modd i chi greu cardiau cyfarch unigryw, na ellir eu prynu ar y stryd fawr. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen i ddysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol o bwytho gan y bydd tiwtor profiadol yn dangos yr holl dechnegau ac yn cefnogi’ch taith i fyd gwneud cardiau. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gyfer y cwrs trochol hwn yn cael eu darparu.

Cofrestrwch heddiw, peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ymhel ag ymwybyddiaeth ofalgar wrth gynhyrchu carden cyfarch wedi’i phwytho a fydd yn unigryw i chi. 

Bydd dysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs byr, tair awr hwn yn gallu meistroli technegau pigo a phwytho, defnyddio theori lliw i ddewis lliwiau edafedd er mwyn creu cardiau unigryw, a dysgu sut i gyfuno pwytho â’r technegau traddodiadol o wneud cardiau. 

Off