Skip to main content

Crosio Sgwâr Mam-gu

Rhan-amser, GCS Training
TBC
Tair awr

Trosolwg

Mentrwch i fyd braf crosio trwy ein cwrs sy’n addas i ddechreuwyr ac sy’n canolbwyntio ar greu’r sgwâr mam-gu clasurol. Dysgwch sut i gyfuno pwyuthau crosio i greu motiffau sgwâr. Dysgwch hanfodion crosio fel dal y bachyn a’r edau i greu pwythau sylfaenol a sut i ffurfio’r pwythau hyn i greu’r sgwâr mam-gu clasurol.

Mae’r cwrs byr hwn yn berffaith i ddechreuwyr a chroswyr mwy profiadol fel ei gilydd oherwydd bydd amrywiaeth o dechnegau crosio ar gael i’w dysgu, fel creu’r sgwâr mam-gu traddodiadol a chymysgu lliwiau i greu motiffau mwy cymhleth. Ar y cwrs hwn, bydd dysgwyr yn cael eu harwain trwy hanfodion creu sgwâr mam-gu syml a’u  hysbrydoli i fynd ymlaen i gynllunio prosiectau hardd fel sgarffiau, hetiau, siwmperi, cardiganau a blancedi hyd yn oed. Mae gan y cwrs hwn rywbeth i apelio at groswyr o bob lefel.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen i ddysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol o grosio na gwnïo gan y bydd tiwtor profiadol yn dangos yr holl dechnegau ac yn eich cynorthwyo i greu ffabrig mam-gu gan ddefnyddio gwastraff edafedd. Bydd yr holl ddefnyddiau a’r offer sydd eu hangen ar gyfer y cwrs trochol hwn yn cael eu darparu.

Cofrestrwch heddiw, peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ymhel â chreadigrwydd gofalgar wrth grosio sgwâr mam-gu a fydd yn unigryw i chi. 

Bydd dysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs byr, tair awr hwn yn gallu dysgu sut i ddal y bachyn, a dal a llawdrin yr edafedd i greu’r pwythau crosio sylfaenol. Byddan nhw’n gallu cyfuno’r pwythau syml hyn i greu sgwâr mam-gu traddodiadol. Byddan nhw’n gallu sicrhau pennau edafedd a fydd yn atal y sgwâr mam-gu rhag datod a byddan nhw’n gallu cyfuno lliwiau i greu effeithiau lliwgar. Yn olaf, bydd dysgwyr yn gallu rhoi’r motiffau at ei gilydd i greu panel mwy o faint. 

Off