Pwytho ar gyfer Ymwybyddiaeth Ofalgar
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Archwiliwch y grefft o ymwybyddiaeth ofalgar trwy ymarfer therapiwtig pwytho. Mae’r cwrs byr hwn yn cynnig cyfle unigryw i feithrin ymwybyddiaeth ofalgar a chreadigrwydd wrth ymhel â’r rhythm o bwytho gan ddefnyddio defnyddiau, ffabrig, nodwyddau ac edafedd brodwaith syml.
Pwythwch gyda bwriad, gan ddefnyddio pwyth rhedeg syml a fydd yn rhoi modd i chi feithrin cysylltiad dwfn rhwng y meddwl, y corff a’r grefft wrth archwilio eich creadigrwydd trwy ddefnyddio lliw.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen i ddysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs hwn fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol o bwytho gan y bydd tiwtor profiadol yn dangos yr holl dechnegau ac yn cefnogi’ch taith i fyd pwytho araf. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gyfer y cwrs trochol hwn yn cael eu darparu.
Cofrestrwch heddiw, peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ymhel ag ymwybyddiaeth ofalgar wrth gynhyrchu panel wedi’i bwytho a fydd yn unigryw i chi.
Bydd dysgwyr sy’n cofrestru ar y cwrs byr, tair awr hwn yn gallu meistroli technegau pwytho syml, defnyddio theori lliw i ddewis lliwiau edafedd er mwyn creu panel wedi’i bwytho a dysgu sut i dawelu’r meddwl trwy ganolbwyntio ar y teimlad o greu’r pwythau unigol.