Gwella ROI trwy Ymchwil Allweddeiriau
Rhan-amser, GCS Training
Llys Jiwbilî
Tri awr
Ffôn 01792 284400 E-bost: Skills4Swansea@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu cysyniadau sylfaenol ymchwil allweddeiriau a’i effaith ar Optimeiddio Peiriant Chwilio. Mae’n cynnwys arfau taledig ac am ddim ar gyfer darganfod a dadansoddi allweddeiriau.
Mae testunau’n cynnwys:
- Cyflwyniad i Ymchwil Alweddeiriau
- Hanfodion Ymchwil Alweddeiriau
- Arfau ar gyfer Ymchwil Alweddeiriau
- Dadansoddi Metrigau Allweddeiriau
- Darganfod Bylchau yn y Farchnad a Dadansoddi Cystadleuwyr
- Dewis Allweddeiriau Strategol a Chynllunio Cynnwys
- Gweithredu ac Olrhain Llwyddiant
Gwybodaeth allweddol
Wyneb yn wyneb neu drwy Teams – cyhyd â bod cysylltiad rhyngrwyd ar gael er mwyn dangos yr offer. Mae wyneb yn wyneb yn well ar gyfer sesiwn diwrnod.
Ennill awdurdod pynciol dros eich cystadleuwyr.
Amcanion y cwrs:
- Deall cysyniadau sylfaenol ymchwil allweddeiriau a’i effaith ar Optimeiddio Peiriant Chwilio
- Gallu defnyddio arfau taledig ac am ddim yn effeithiol ar gyfer darganfod a dadansoddi allweddeiriau
- Gwybod sut i nodi bylchau yn y farchnad a dadansoddi strategaethau allweddeiriau cystadleuwyr
- Darparu profiad ymarferol o ddewis allweddeiriau yn strategol a’u hymgorffori yn y gwaith o gynllunio cynnwys
- Olrhain llwyddiant eu strategaethau allweddeiriau a gwneud penderfyniadau wedi’u llywio gan ddata.