Lluosi - Sesiwn Cymorth Mathemateg ar gyfer Bywyd Bob Dydd
E-bost: multiply@gcs.ac.uk
Trosolwg
Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!
Rydym yn defnyddio mathemateg bob dydd er mwyn:
• Rheoli arian
• Deall benthyciadau
• Dod o hyd i’r prisiau gorau a chymharu prisiau
• Paratoi bwyd, pwyso cynhwysion a phobi
• Teithio, cynllunio llwybrau a chyfrifo pellter
• Deall chwaraeon, cadw sgôr a dehongli ystadegau
Bwriad y sesiynau 2 awr hyn yw eich helpu i oresgyn eich pryderon, gan fynd i'r afael â rhifau a chymryd y cam cyntaf tuag at rai o'n cyrsiau penodol eraill.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau:
• 19+ oed
• Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.
Nid oes asesiad ar gyfer y cwrs hwn.
Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.