Lluosi - Seryddiaeth a Chysawd yr Haul
E-bost: multiply@gcs.ac.uk
Trosolwg
Prosiect Lluosi! Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch o gynnig cyrsiau rhifedd am ddim i oedolion. Mae’r cyrsiau’n berthnasol i fywyd bob dydd ac maent yn hollol wahanol i’r hen wersi Mathemateg rydych chi’n eu cofio yn yr ysgol!
Dechreuwch daith rhifedd trwy’r cosmos trwy astudio cwrs cyffrous mewn Seryddiaeth a Chysawd yr Haul.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i archwilio’r gofod a phrif elfennau cysawd yr haul. Beth yw graddfa planedau israddol ac uwchraddol? Pa ddeunydd nwyol sy’n creu cewri nwy? Bydd pob endid wybrennol yn cael ei wylio yn fyw, gan ganiatáu i ddysgwyr ymchwilio i nodweddion penodol a gweithio allan pellteroedd cymharol o’r haul.
Ond, nid yw’r daith yn dod i ben fan hyn. Byddwn yn edrych ar gawodydd asteroid, gan ddysgu’r gwahaniaeth rhwng meteoroidau a meteorynnau.
Ymunwch â ni i danio eich angerdd am y gofod, wrth i ni ddarganfod ‘Seryddiaeth a Chysawd yr Haul’.
Gwybodaeth allweddol
Gofynion Cymhwystra ar gyfer y cyrsiau:
• 19+ oed
• Byw neu’n gweithio yn Abertawe
Rhaid dod â thystiolaeth o gymhwysedd i’r wers gyntaf. Gellir cyrchu rhestr o’r mathau o dystiolaeth a dderbynnir yma.
Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn 2 sesiwn 4.5 awr ym Mhlas Sgeti.
Nid oes asesiad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn. Yn hytrach, byddwn yn casglu tystiolaeth o ddysgu. Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan Agored.
Gallwch ymgymryd â chyrsiau Lluosi eraill a chofrestru ar gyfer cyrsiau Lefel 1/2 Sgiliau Hanfodol Cymru - Cymhwyso Rhif - gan ennill cymhwyster rhifedd i greu argraff ar gyflogwyr.