Diflewio â Chwyr Lefel 2 - Dyfarniad
Trosolwg
Mae Dyfarniad VTCT Lefel 2 mewn Diflewio â Chwyr yn gymhwyster sydd wedi cael ei gynllunio’n benodol i ddatblygu eich sgiliau ymarferol o ran sut i ddiflewio gan ddefnyddio technegau cwyro.
Yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn o arferion iechyd a diogelwch mewn amgylchedd salon, gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch. Byddwch chi hefyd yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth sylfaenol o’r sgiliau ymarferol a ddysgwyd drwy gydol y cymhwyster hwn.
Pwrpas y cymhwyster hwn yw datblygu eich sgiliau therapi harddwch i lefel uchel o allu galwedigaethol er mwyn i chi berfformio’ch gwasanaethau salon eich hun.
- Diflewio gan ddefnyddio technegau cwyro
- Gofal cleientiaid a chyfathrebu mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch
- Dilyn arferion iechyd a diogelwch yn y salon.
Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.
Gwybodaeth allweddol
- Nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddilyn y cymhwyster hwn
- Byddwch yn dod i gyfweliad i sicrhau bod gennych yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau gofynnol er mwyn cofrestru a chyflawni’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus
- Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1.
Asesiadau ymarferol parhaus, arholiadau ac aseiniadau ysgrifenedig.
Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.
Triniaethau Therapi Harddwch (Diploma Lefel 2/Lefel 3) neu Drin Gwallt (Diploma Lefel 2).
Cyflogaeth yn y diwydiant fel therapydd iau mewn salon proffesiynol neu hunangyflogaeth.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.
Byddwn ni’n cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.