Paratoi ar gyfer Cwrs Archwilio Weldio Gweledol CSWIP 3.0
Rhan-amser
Tycoch
Ffôn:
01792 284000 (Tycoch)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys paratoi a hyfforddi ar gyfer cwrs Archwilio Weldio Gweledol CSWIP. Mae ar gyfer weldwyr, gweithredwyr, archwilwyr llinell, a fformyn sy’n cynnal archwiliad gweledol o gymalau wedi’u weldio. Mae hefyd yn addas ar gyfer staff rheoli ansawdd weldio staff ac unrhyw un sydd angen hyfforddiant sylfaenol mewn archwilio weldio ochr yn ochr â chymhwyster.
Erbyn diwedd y cwrs dylech allu:
• Adnabod diffygion weldio amrywiol
• Deall y dechnoleg weldio berthnasol sy’n gysylltiedig ag archwilio gweledol
• Deall yr angen am ddogfennaeth ym maes weldio
• Bod yn ymwybodol o godau a safonau sy’n gysylltiedig â gofynion archwilio
• Cynnal archwiliad o ddefnyddiau a nwyddau traul
• Cynnal archwiliad gweledol o waith weldio, adrodd arno ac asesu ei gydymffurfiad â meini prawf derbyn penodol
• Pasio arholiad Archwilydd Weldio Gweledol CSWIP.
Nid yw’r cwrs hwn yn rhedeg ar hyn o bryd .
Gwybodaeth allweddol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol i’r cwrs hwn, ond argymhellir bod gan ymgeiswyr o leiaf chwe mis o brofiad peirianneg cysylltiedig â weldio a dwy flynedd o brofiad diwydiannol.
Cwrs ymarferol gyda thechnoleg weldio.
Addysgir y cwrs dros dri diwrnod.
Cwrs archwilio 3.1 gyda TWI
Mae cyfleoedd eraill yn cynwys ASME IX/ BSEN ISO 9606 Profion Weldio, gwaith a dilyniant ar amrywiaeth o gontractau weldio codedig a Phrofion Codau Weldio – BS 4872.