Ydych chi neu’ch plentyn sydd yn ei arddegau yn meddwl am y camau nesaf ar ôl ysgol? Bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn agor ei ddrysau ym mis Tachwedd i ddarpar fyfyrwyr fel y gallant gael cyfle i ymweld â champysau, sgwrsio â darlithwyr a staff cymorth a darganfod y cyrsiau sydd ar gael.
Llys Jiwbilî – Nos Fercher 15 Tachwedd
Llys Jiwbilî yw campws amgylchedd adeiledig dynodedig y Coleg. Os ydych chi’n dymuno sicrhau dyfodol ym maes peintio ac addurno, gwaith brics, gwaith coed neu blastro, dyma’r noson agored i chi! Mae cyrsiau galwedigaethol a phrentisiaethau ar gael ar y campws hwn, yn ogystal â gweithdai rhagorol a chyfleusterau ardderchog.
Campws Gorseinon - Nos Iau 16 Tachwedd
Ydych chi’n chwilio am ychydig o amrywiaeth academaidd? Os felly, Campws Gorseinon yw’r lle i chi! Mae’r campws yn cynnig 40 o gyrsiau Safon Uwch nad ydynt yn cael eu cynnig ar lefel TGAU, yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol mewn busnes, cyfrifiadura, cyfryngau creadigol, peirianneg, iechyd a gofal plant, cerbydau modur, celfyddydau perfformio, gwasanaethau cyhoeddus, chwaraeon a chynhyrchu theatr.
Ar hyn o bryd mae’r campws yn cael ei adnewyddu i wella ei gyfleusterau i bawb. Rydym yn creu cyntedd sy'n arwain at fan cymdeithasol, atriwm ac ystafelloedd dosbarth newydd.
Llwyn y Bryn - Nos Fawrth 21 Tachwedd
Does dim ffiniau i gelf a chreadigrwydd ar gampws Llwyn y Bryn. I’r rhai sydd â dawn artistig, mae’r campws hwn yn cynnig cyrsiau galwedigaethol mewn celf a dylunio, ffotograffiaeth a chreu a chynhyrchu cerddoriaeth. Mae’r cynfas yn aros amdanoch chi yn Llwyn y Bryn, ac mae gan y campws gyfleusterau gwych yn ogystal ag awyrgylch croesawgar.
Mae cyrsiau Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) hefyd ar gael ar y campws.
Campws Tycoch - Nos Iau 23 Tachwedd
Mae Campws Tycoch yn hyb bywiog a phrysur i fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau galwedigaethol. Mae’r campws yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau galwedigaethol sy’n gweddu i ystod o ddiddordebau. O wasanaethau adeiladu ac arlwyo i gyfrifiadura a llawer mwy, mae gan y campws gwrs ar eich cyfer chi.
Mae cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (a ddyluniwyd ar gyfer oedolion sydd am ddychwelyd i addysg ar ôl seibiant) a phrentisiaethau hefyd yn cael eu darparu ar y campws hwn.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cyrsiau addysg uwch lefel prifysgol? Mae Campws Tycoch yn gartref i Ganolfan Brifysgol pwrpasol sy’n cynnig cyrsiau gradd, graddau sylfaen, Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch (HNC), Diplomâu Cenedlaethol Uwch (HND) a chymwysterau proffesiynol. Mae llawer o’r cymwysterau hyn wedi’u dilysu gan brif sefydliadau addysg uwch Cymru.
Dyddiadau i’r calendr
Bydd pob noson agored yn dechrau am 5.30pm ac yn gorffen am 7.30pm.
I fwcio eich lle, cofrestrwch yma a chymerwch y cam cyntaf tuag at ddyfodol cyffrous a boddhaus!
Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn gyffrous i’ch croesawu chi a’ch helpu i wneud penderfyniadau call am eich taith academaidd.