Skip to main content

Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3

Rhan-amser, Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Cilex
Sketty Hall
21 mis / 35 wythnos

Trosolwg

Mae’r cwrs Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3 yn datblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r arbenigedd proffesiynol sydd eu hangen i fod yn gynorthwyydd paragyfreithiol/cyfreithiol, rôl sy’n chwarae swyddogaeth hanfodol yn y sector cyfreithiol.

Mae’n rhaglen hynod ymarferol, lle mae sgiliau proffesiynol craidd fel ymwybyddiaeth fasnachol, moeseg broffesiynol a chyfathrebu yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant. Mae’r brentisiaeth yn rhoi gwybodaeth gyfreithiol hanfodol gan roi modd i ddarpar gynorthwywyr paragyfreithiol a chyfeithiol ddarparu cymorth ac arweiniad i dimau sy’n gweithredu mewn amrywiaeth o feysydd ymarfer cyfreithiol. 

Mae’r cwrs Gwasanaethau Cyfreithiol Lefel 3 yn addas ar gyfer aelodau tîm newydd a phresennol yn y sector cyfreithiol a bydd ar gael o fis Medi 2024. 

Mae’r cwrs hwn ar gael fel opsiwn rhan-amser ac fel prentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

Os nad yw dysgwyr wedi cyflawni graddau A-C ar lefel TGAU (neu’r cyfwerth), rhaid iddynt hefyd gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol.

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid eich bod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac yn gweithio yng Nghymru. Yn ogystal, rhaid i’r dysgwyr gael eu cefnogi’n llawn gan y cyflogwr.

Addysgir y cwrs wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Bydd dysgwyr yn astudio pum modiwl (yn ogystal ag un e-fodiwl):

  • Systemau Cyfreithiol
  • Cyfraith Camwedd
  • Cyfraith Contractau
  • Cyflwyniad i Eiddo a Chleientiaid Preifat
  • Sgiliau Proffesiynol a Chyfreithiol
  • Moeseg a Chyfrifoldeb Proffesiynol 1 (e-fodiwl).

Ar ôl cwblhau’r cwrs, bydd amrywiaeth o gyfleoedd gyrfa ar gael ar gyfer paragyfreithwyr, gyda rolau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Paragyfreithiwr
  • Cynorthwyydd Cyfreithiol
  • Swyddog Gweinyddol Cyfreithiol 
  • Ysgrifennydd Cyfreithiol
  • Enillydd Ffioedd/Triniwr Achosion Iau.

Gall dysgwyr barhau i weithio fel paragyfreithiwr, neu symud ymlaen i brentisiaeth uwch Lefel 5 mewn Paragyfreithiwr Uwch.
 

Cilex Level 3 CPQ Foundation (Paralegal)
Cod y cwrs: D3F1929 PT1A
18/09/2024
Plas Sgeti
35 weeks
Wed
9am - 3pm
£3000
Lefel 3